Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Masnachwr ceir yn y Fflint yn cael ei garcharu’n dilyn ymchwiliad Safonau Masnach
Published: 14/05/2025
Mae masnachwr ceir o’r Fflint wedi cael dedfryd o 4 blynedd yn y carchar am werthu cerbydau a ddiddymwyd am gyfanswm o £300,000.
Dedfrydwyd Zana Ahmed Muhammed, 42, yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 28 Ebill 2025, ar ôl pledio’n euog i Fasnachu Twyllodrus dan Ddeddf Twyll 2006.
Cyflwynwyd yr achos gan Dîm Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint ar ôl derbyn sawl cwyn gan gwsmeriaid ar draws y DU, a oedd wedi prynu ceir gan yr Hen Orsaf Ambiwlans, Ffordd Gaer yn y Fflint. Nododd cwsmeriaid eu bod wedi darganfod bod y ceir wedi’u diddymu ar ôl eu prynu ac nad oeddent yn ymwybodol o hyn cyn eu prynu.
Rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mehefin 2023, defnyddiodd Muhammed Facebook Marketplace ac eBay i hysbysebu ceir heb roi gwybod i gwsmeriaid eu bod wedi’u diddymu, er ei fod wedi derbyn rhybudd blaenorol gan Swyddogion.
Cwblhaodd Swyddogion Safonau Masnach nifer uchel o ymchwiliadau manwl i geir Categori N a Chategori S wedi’u diddymu a oedd yn cael eu prynu mewn ocsiynau ceir ac yna’n cael eu hysbysebu ar Facebook Marketplace ac eBay. Ni soniwyd o gwbl o fewn yr hysbysebion fod y ceir hyn wedi’u diddymu, ac mewn rhai achosion, newidiwyd yr hysbysebion ar ôl eu prynu i gynnwys y wybodaeth hon mewn ymgais i awgrymu fod y wybodaeth hon yn yr hysbyseb gwreiddiol.
Roedd rhai o’r ceir yn torri i lawr, a oedd yn golygu biliau atgyweirio sylweddol i gwsmeriaid o filoedd o bunnoedd mewn rhai achosion am geir na fyddent wedi’u prynu pe baent yn ymwybodol eu bod wedi cael eu diddymu. Mynegodd cwsmeriaid bryderon eu bod wedi rhoi eu plant yn y ceir hyn ac nad oeddent yn teimlo’n ddiogel yn eu gyrru.
Dywedodd Lee Reynolds, a oedd yn erlyn ar ran Safonau Masnacha Sir y Fflint, wrth y llys fod enwau ffug yn cael eu defnyddio, ac enwau’r proffiliau eBay a Facebook yn cael eu newid i osgoi cael eu canfod, a bod Muhammed wedi gwneud sawl esgus pan gododd cwsmeriaid broblemau â’u ceir ag ef. Soniodd Mr Reynolds am yr ymdrechion niferus gan Muhammed i dwyllo cwsmeriaid, ac er iddo dderbyn cyngor gan Safonau Masnach, ni wnaeth hyn ei atal rhag gweithredu mewn modd twyllodrus ar raddfa fawr. Nododd Mr Reynolds fod “bob ffordd, yn dilyn ymchwil trylwyr, wedi arwain yn ôl i’r diffynnydd”.
Yng ngwrandawiad y ddedfryd, dywedodd y Barnwr Timothy Petts: “Ar wahân i brynu ty, mae prynu car yn un o’r camau ariannol mwyaf y bydd rhywun yn ei gymryd”. Ychwanegodd y barnwr fod Muhammed wedi dweud celwydd am y ceir, oherwydd pe bai wedi bod yn onest â’r bobl, ni fyddent wedi’u prynu, ac roedd “hyd yn oed wedi newid yr hysbysebion er mwyn ymddangos yn ddilys, er nad dyna oedd yr achos”.
Dywedodd y barnwr nad oedd Muhammed wedi dangos edifeirwch, a’i fod wedi ceisio taflu’r bai ar eraill, gan ychwanegu ei fod yn llawn celwyddau ac wedi ymddwyn yn hollol anonest.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell: “Er ei fod wedi derbyn cyngor gan Swyddogion Safonau Masnach, parhaodd Mr Muhammed i fethu â datgan fod y ceir wedi’u diddymu. Er nad yw gwerthu ceir a ddiddymwyd yn anghyfreithlon, mae methiant i ddatgelu’r wybodaeth hon yn anghyfreithlon, a dylid sicrhau fod darpar gwsmeriaid yn ymwybodol o hyn er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniad gwybodus cyn prynu car.
“Mae’r achos hwn yn dangos fod Safonau Masnach Sir y Fflint yn sylweddoli difrifoldeb y materion hyn ac y byddwn yn ymchwilio i ac yn erlyn lle bo angen, er mwyn diogelu’r cyhoedd a masnachwyr ceir dilys. Ein cyngor i gwsmeriaid yw cynnal gwiriadau trylwyr cyn prynu car, megis adroddiadau Hurbwrcasu, hanes MOT, cofnod gwasanaethu, mynd am dro prawf yn y car a gofyn am dderbynneb bob tro.”
Cyflwynodd Lee Reynolds gais i’r llys dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002 mewn ymgais i sicrhau arian i ddigolledu’r dioddefwyr mewn gwrandawiad a gynhelir yn nes ymlaen eleni.