Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol carbon sero net gyntaf Cyngor Sir y Fflint yn weithredol

Published: 20/05/2025

Gyda 1,080 o baneli solar ar y to a llu o nodweddion cynaliadwy, y campws ysgol newydd hwn sydd werth miliynau o bunnoedd ym mhentref Mynydd Isa, Yr Wyddgrug, yw ysgol gyntaf Cyngor Sir y Fflint sy’n gweithredu ar sail egwyddor carbon sero net. 

Fe ymwelodd Pwyllgor Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint â Champws Mynydd Isa yn ddiweddar yn ogystal ag aelodau cabinet, cynrychiolwyr yr ysgol a Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru i ddarganfod mwy am elfennau cynaliadwy’r ysgol. 

Hefyd fe roddodd y rhai a oedd yn bresennol arwydd neon ymlaen a oedd wedi ei gomisiynu’n arbennig gyda’r gair ‘Croeso’ yn symbol o’r egni mae’r adeilad yn ei greu ar ei gyfer ei hun. Robertson power on 1.JPG

Wedi ei gyflawni gan Robertson Construction North West ar ran Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru, yr ysgol hon sydd o’r radd flaenaf yw un o’r rhai mwyaf effeithlon o ran ynni yng Nghymru, gan ddangos ymrwymiad Sir y Fflint i leihau allyriadau carbon a chreu dyfodol sy’n fwy gwyrdd. 

Mae gweithredu ar sail egwyddor sero net yn golygu fod Campws Mynydd Isa wedi ei ddylunio i gynhyrchu cymaint o ynni ag y mae’n ei ddefnyddio, diolch i ystod o nodweddion sy’n arbed ynni. Un o’r nodweddion hynod yw’r system banel solar sy’n creu argraff gyda chelloedd ffotofoltäig dros tua 80% o’r to, ardal dros 2,500m². 

Mae disgwyl i’r paneli hyn greu dros 300,000 kWh o drydan bob blwyddyn, gan leihau allyriadau carbon o dros 70 tunnell yn flynyddol. Yn ystod misoedd yr haf, bydd unrhyw drydan ychwanegol a gynhyrchir yn cael ei anfon yn ôl i’r grid.

Gan fod y deunyddiau wedi eu dewis yn ofalus, deunyddiau sy’n llai dwys o ran carbon, mae’r campws hefyd yn isel mewn ‘carbon ymgorfforedig’. Gan ddefnyddio pympiau gwres yr awyr ar gyfer cynhesu a dwr poeth, yn hytrach na thanwydd ffosil, mae’r campws hefyd yn elwa o system ddraenio arbennig i reoli dwr glaw yn naturiol gan helpu i atal llifogydd a chefnogi bywyd gwyllt. 

Mae’r tir wedi ei ddylunio i hyrwyddo bioamrywiaeth gyda mannau gwyrdd, tirlunio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt a mannau awyr agored sy’n annog disgyblion i ymgysylltu gyda natur. Mae deunyddiau sydd wedi eu hailgylchu a rhai carbon isel hefyd wedi eu defnyddio i adeiladu’r mannau awyr agored gan gynnwys man chwarae wedi ei wneud o deiars wedi eu hailgylchu.

Caiff teithio llesol ei annog drwy lwybrau beicio a cherdded pwrpasol a mannau gwefru ceir trydan. 

Mae’r campws deulawr 10,500m² yn gallu cynnwys 1,300 o ddisgyblion, gan gynnwys 43 o blant oed meithrin, 600 o ddisgyblion cynradd a 700 o fyfyrwyr ysgol uwchradd. Bydd yr holl ddisgyblion yn elwa o gyfleusterau arloesol wedi eu dylunio ar gyfer dysgu yn yr 21ain ganrif. Disgyblion ysgol uwchradd oedd y cyntaf i symud i’r campws yn gynharach ym mis Mai, gyda gweddill y disgyblion yn symud i mewn ar ôl gwyliau’r haf. Robertson power on 2.JPG

Caiff Campws Mynydd Isa ei adeiladu drwy Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru gan ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol sydd wedi ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru i ariannu prosiectau cyfalaf mawr. 

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, Cyngor Sir y Fflint:  “Roeddwn wrth fy modd o gynrychioli Pwyllgor Newid Hinsawdd y Cyngor a gweld y prosiect hynod hwn yn dod i fodolaeth. Mae nid yn unig yn adlewyrchu ein hymrwymiad i addysg sydd o ansawdd uchel ond hefyd i ddyfodol mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy ar gyfer ein plant.”

Dywedodd Elliot Robertson, Prif Weithredwr Grwp Robertson: “Mae cyflawni Campws Mynydd Isa fel ysgol gyntaf Sir y Fflint sy’n gweithredu ar sail egwyddor carbon sero net yn nodi cam sylweddol ymlaen ar gyfer adeiladau cynaliadwy yng Nghymru. 

“Drwy gydweithio gyda Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru a Chyngor Sir y Fflint, mae’r prosiect hwn yn pwysleisio ein hymrwymiad i gyflawni prosiectau sy’n cefnogi cymunedau ac yn hyrwyddo dyfodol cynaliadwy. Byddwn yn parhau i gynnal a chadw’r campws drwy dîm Rheoli Cyfleusterau Robertson ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gymuned am sawl blwyddyn i ddod.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Rwyf wrth fy modd fod Campws Mynydd Isa ar agor i ddysgwyr.

“Bydd cymaint o ddisgyblion yn elwa o’r cyfleusterau eithriadol hyn sy’n gweithredu ar sail egwyddor sero net, gan wreiddio ein hymrwymiadau tuag at leihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Nid dim ond adeiladu ysgol ydym ni, rydym ni’n creu amgylchedd lle gall y genhedlaeth nesaf ddysgu yn uniongyrchol am gynaliadwyedd.”

Dywedodd Neil Cutting, Cyfarwyddwr Prosiect gyda Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru: “Rydym wrth ein bodd gyda’r datrysiad carbon sero net ar gyfer y prosiect hwn. Y cyntaf o’i fath ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, rydym wrth ein bodd gyda’r adeilad sydd wedi ei gwblhau sy’n dangos sut y gellir adeiladu cyfleusterau addysgol arloesol yn gyfrifol.

“Gyda’n partneriaid adeiladu, mae Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru yn falch yr ymddiriedwyd ynom i gyflawni’r campws addysg 3-16 oed hwn ar gyfer Cyngor Sir y Fflint a chymunedau Mynydd Isa, nawr ac i’r dyfodol. Diolch yn fawr.”

Mae’r ysgol yn rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n canolbwyntio ar foderneiddio adeiladau ysgol gyda chynaliadwyedd yn greiddiol i hynny. Mae’r prosiect yn amlygu ymrwymiad ehangach Cyngor Sir y Fflint i fynd i’r afael â newid hinsawdd a sicrhau fod adeiladau cyhoeddus yn cael eu hadeiladu gan ystyried y dyfodol.

Nodweddion Cynaliadwyedd:

• Yr ysgol gyntaf yn Sir y Fflint sy’n gweithredu ar sail egwyddor carbon sero net - Ysgol Mynydd Isa yw’r ysgol gyntaf yn y sir sy’n gweithredu ar sail egwyddor carbon sero net gan osod cynsail ar gyfer adeiladau addysgol yn y rhanbarth yn y dyfodol.

• Gosodiad Solar Cyntaf ar Raddfa Fawr ar Ysgol yn Sir y Fflint - Mae rhesi ffotofoltäig ar raddfa fawr wedi eu gosod ar do’r ysgol, gan ddarparu cyfran sylweddol o anghenion yr adeilad o ran trydan. Mae’r paneli solar wedi eu dylunio i sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf posibl, gan leihau dibyniaeth ar y grid a lleihau costau ynni’n sylweddol. Mae disgwyl i’r system greu ynni glân am ddegawdau, gan leihau ôl-troed carbon yr ysgol a chyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy Sir y Fflint.

• Pympiau Gwres yr Awyr - Mae’r systemau hyn sy’n effeithlon o ran ynni yn darparu gwres a dwr poeth heb ddibyniaeth ar danwydd ffosil.

• Systemau Draenio Cynaliadwy - Mae’r safle yn cynnwys isadeiledd gwyrdd sy’n rheoli dwr glaw yn naturiol, gan leihau risg o ran llifogydd a chefnogi bioamrywiaeth leol.

• Gwella Bioamrywiaeth - Mannau gwyrdd, tirlunio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt a mannau dysgu awyr agored yn annog ymgysylltu ecolegol a chefnogi cynefinoedd lleol.

• Isadeiledd Teithio Cynaliadwy - Mae llwybrau beicio a cherdded pwrpasol, yn ogystal â mannau gwefru cerbydau trydan, yn hybu dewisiadau teithio llesol a charbon isel ar gyfer disgyblion a staff.

• Golau -  Caiff golau dydd naturiol ei ddefnyddio pryd bynnag fo hynny’n ymarferol i leihau’r defnydd o ynni sy’n gysylltiedig â golau trydan a systemau golau hynod o effeithlon gyda system reoli a roddir ymlaen â llaw ond sy’n mynd i ffwrdd yn awtomatig wrth ganfod absenoldeb.

• Concrid - Mae sment carbon isel yn lleihau faint o garbon a ddefnyddir yn sylweddol.