Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Ddigidol
Published: 18/02/2019
Bydd gofyn i aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo egwyddorion cynllunio Strategaeth Ddigidol Sir y Fflint a’r rhaglen ar gyfer gweithredu’r strategaeth honno pan fyddant yn cwrdd ddydd Mawrth, 19 Chwefror.
Nod pennaf y strategaeth ddigidol yw galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau ar-lein pa bryd bynnag y dymunant, lle bo hynny’n bosib. Bydd yn cymryd amser i gyflawni hyn, ond yn y pen draw bydd pobl yn medru cael gwybodaeth ar-lein, sôn am bethau fel tyllau yn y ffordd neu waith trwsio sydd ei angen ar dai, trefnu apwyntiadau a thalu eu rhent neu dâl am wasanaethau.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:
“Wrth i wasanaethau ar-lein ddod yn fwyfwy cyffredin, bydd pobl yn elwa ar fedru cael mynediad at wasanaethau pan mae hynny’n gyfleus iddyn nhw. Mae ‘Fy Nghyfrif I’ ar wefan y Cyngor eisoes yn rhoi gwybodaeth bwysig i bobl fel diwrnodau casglu eu biniau, a bydd hyn yn cynyddu dros amser wrth i fwy a mwy o wasanaethau gael eu darparu’n ddigidol.”
Camau nesaf y Strategaeth Ddigidol yw:
- lansio ‘Fy Nghyfrif I’ a fydd yn galluogi pobl i wneud ceisiadau a dilyn eu hynt, gweld gwybodaeth am eu cynghorwyr lleol, gweld ceisiadau cynllunio a chael gwybodaeth am gasglu biniau;
- cyflwyno porth i denantiaid tai’r Cyngor ym mis Mawrth, fel y gallant weld manylion eu tenantiaethau, mynd at eu cyfrifon rhent a thalu, cael gwybodaeth am waith trwsio a phethau pwysig eraill, gan gynnwys y dyddiadau pan ddylai rhywun ddod i gael golwg ar offer nwy;
- lansio system gyflawn ar gyfer tyllau yn y ffordd, lle bydd arolygwyr yn cael manylion am dyllau yn syth i’w ffonau symudol, fel bod modd cwblhau gwaith trwsio yn y fan a’r lle.