Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trefniadau derbyniadau ysgolion ar gyfer 2020/21
Published: 14/03/2019
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo trefniadau derbyniadau ysgolion ar gyfer 2019/20.
Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori blynyddol gyda llywodraethwyr ysgol, awdurdodau esgobaethol a chynghorau cyfagos yn ystod mis Ionawr a Chwefror. Roedd yn ymwneud â nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i ysgolion unigol, yn seiliedig ar feini prawf a rheoliadau cenedlaethol.
Yn Sir y Fflint mae mwyafrif helaeth (tua 96%) o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu gyda nifer eithaf bychan o apeliadau. Disgwylir y bydd yr arfer lle mae mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael yn parhau yn arbennig ar lefel uwchradd mewn rhai ardaloedd o’r Sir o ganlyniad i garfan uwch ym Mlwyddyn 6 a dewis rhieni.
Roedd cyfanswm o 1228 (831 cynradd a 397 uwchradd) o drosglwyddiadau ysgolion yn ystod 2017/18 sy’n nifer debyg i awdurdodau eraill yng Nghymru. Er na ellir osgoi rhai trosglwyddiadau, gall unrhyw drosglwyddiad darfu ar addysg dysgwr, ac felly awgrymir fod y geiriad canlynol yn cael ei gynnwys yn y polisi:
“Nid yw’r Awdurdod Lleol yn annog trosglwyddiadau rhwng ysgolion, a gall newid ysgol yng nghanol tymor darfu’n ddifrifol ar ddilyniant addysg plentyn. Os yw rhieni yn teimlo fod problem yn yr ysgol mor ddifrifol fel bod rhaid newid yna anogir hwy i gymryd yr holl gamau rhesymol i ddatrys y mater gyda’r ysgol yn gyntaf ac wedyn ceisio cyngor gan y Tîm Derbyniadau os oes angen cyn gwneud cais am drosglwyddiad. Mewn achosion sy’n ymwneud â cheisiadau am drosglwyddiad ysgol nad ydynt yn ymwneud â symud ty, mae'r Awdurdod Lleol yn cadw’r hawl i drefnu i'r plentyn ddechrau'r ysgol newydd ar ddechrau’r hanner tymor nesaf i sicrhau’r amhariad lleiaf i’w haddysg hwy a phlant eraill. Mae gan bob ysgol uwchradd raglenni trawsnewid canol blwyddyn a fydd yn cefnogi disgyblion sy’n ymgymryd â throsglwyddiad yng nghanol cyfnod. Mae’r rhaglenni'n cynnwys ymweliadau estynedig i'r ysgol gan rieni/gofalwyr a disgyblion".
Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn cynnwys geiriad tebyg yn eu polisïau.
Mae newidiadau arfaethedig i'r niferoedd derbyn mewn dwy ysgol i adlewyrchu newidiadau yn yr adeiladau. Y rhain yw Ysgol Derwenfa, Coed-llai ac Ysgol Bryn Gwalia, Yr Wyddgrug. Yn y ddau achos mae’r niferoedd derbyn wedi bod yn gostwng yn dilyn ymgynghoriad gyda’r penaethiaid.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
"Rwy’n falch bod y rhan fwyaf o blant yn Sir y Fflint, unwaith eto, yn gallu mynychu'r ysgol y maent wedi'i dewis. Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i ddychwelyd eu ceisiadau ar-lein erbyn y dyddiad gofynnol. Hefyd hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgynghori diweddar ac rwy’n hyderus y bydd mwyafrif llethol o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu.”