Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgyrch Spectre
Published: 26/03/2019
Cymerodd Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint ran yn Ymgyrch Sceptre yn ystod wythnos genedlaethol gweithredu yn erbyn troseddau lle defnyddir cyllyll.
Yn yr Ymgyrch gweithiodd y Gwasanaeth mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru a chadetiaid yr heddlu un ar bymtheg oed a anfonwyd i mewn i siopau ledled y Sir i roi cynnig ar brynu cyllyll. Mae’n anghyfreithlon gwerthu cyllell neu eitem debyg â llafn i bobl dan ddeunaw oed a gall y gosb arwain at ddirwy sylweddol neu ddedfryd o garchar.
Yn ystod yr ymgyrch, gwerthwyd cyllyll i gadetiaid mewn tair siop. Mae Swyddogion Safonau Masnach wedi ymweld â’r siopau hyn ers hynny a’u hysbysu o’u rhwymedigaethau cyfreithiol, ac mae ymarfer profion prynu dilynol ar y cyd wedi'i gynllunio lle bydd unrhyw achosion pellach o werthu anghyfreithlon yn arwain at gamau gorfodi.
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:
“Mae iechyd, diogelwch a lles ein preswylwyr ledled Sir y Fflint yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae atal troseddau lle defnyddir cyllyll a’u heffeithiau ar unigolion, teuluoedd a chymunedau yn parhau i fod yn faes gwaith sy’n cael blaenoriaeth gan y cyngor a’i bartneriaid.
“Er nad yw troseddau lle defnyddir cyllyll yn digwydd yn aml yn Sir y Fflint, gall gael effaith niweidiol ar ein cymunedau. Mae’n bwysig bod Awdurdodau Lleol yn gweithio ochr yn ochr â’r Heddlu i gyfleu’r neges glir na oddefir achosion o dorri’r gyfraith.”