Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Croesawu gostyngiadau Treth y Cyngor
Published: 15/04/2019
Yr wythnos hon mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag Awdurdodau Lleol Cymru a Martin Lewis o MoneySavingExpert.com – gwefan defnyddwyr mwyaf y DU, yn mynd ati i godi ymwybyddiaeth o ostyngiadau Treth y Cyngor sydd ar gael i breswylwyr, yn enwedig y rheiny sy'n dioddef o namau meddyliol difrifol.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn croesawu’r cyhoeddiad hwn ac yn gefnogol iawn o annog preswylwyr i wneud cais am y gostyngiad hwn.
Mae’r Cyngor eisoes yn cefnogi 527 o breswylwyr sydd â nam meddyliol difrifol i ostwng eu Treth y Cyngor. Mae 342 o breswylwyr yn cael gostyngiad o 25% yn eu Treth Y Cyngor ac mae 185 wedi'u heithrio'n gyfan gwbl rhag talu Treth y Cyngor.
Bydd parhau i hyrwyddo’r cynllun hwn yn helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n derbyn y gostyngiad hwn hyd yn oed yn fwy trwy gyfuniad o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithio ar y cyd ag asiantaethau cynghori eraill.
Mae preswylwyr sydd â hawl i'r gostyngiad hwn yn cael eu hannog i wneud cais am ostyngiad neu geisio cymorth a chefnogaeth bellach trwy gysylltu â'r gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848. Mae ffurflen gais ar gael hefyd ar www.siryfflint.gov.uk/trethycyngor.
Gall preswylwyr hefyd gysylltu â’r gwasanaeth trwy e-bost ar local.taxation@flintshire.gov.uk.
Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn hapus iawn gyda nifer y bobl sy'n derbyn ein cynlluniau gostyngiadau, gan gynnwys y cynllun gostyngiadau sy'n mynd ati i geisio helpu preswylwyr â namau meddyliol difrifol".
“Er gwaethaf y gwaith yr ydym bob amser wedi’i wneud i hyrwyddo'r gostyngiadau, mae gwaith i’w wneud o hyd er mwyn codi ymwybyddiaeth ac mae’r fenter hon yn helpu gyda’r nod honno”.