Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweithdai llwyddiannus i bobl ifanc
Published: 11/07/2019
Cynhaliodd Gwaanaeth Cynhwysiant Cyngor Sir y Fflint ddau weithdy yn ddiweddar, mewn partneriaeth gyda Jane Bellis o Art & Soul Tribe a James Hunt o CAFgas, i bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio o addysg, cyflogaeth a hyfforddiant (NEET).
Mae’r bobl ifanc yma’n wynebu amrywiaeth o heriau bywyd, ac am un rheswm neu’r llall, maent yn ymddieithrio o addysg.
Pwrpas y sesiynau hyn oedd gweithio gyda’r bobl ifanc i’w grymuso i fod yn gadarnhaol, i’w helpu i gysylltu â phobl eraill, i weithio mewn tîm a dod o hyd i ffocws cadarnhaol ar gyfer eu dyfodol.
Cynhaliwyd y sesiynau am chwe wythnos i ddechrau gyda sesiwn yn y boreau ar gyfer merched ifanc ac un bachgen ifanc a sesiwn yn y prynhawn i fechgyn ifanc. Roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar ymgysylltu â’r bobl ifanc trwy weithgareddau diddorol. Mae llwyddiant y bobl ifanc wedi arwain at drefnu chwe wythnos arall gan Dîm Dilyniant y Cyngor.
Bu’r bobl ifanc yn y sesiwn bore yn gweithio trwy lyfr gwaith o’r enw "Mindset Mojo” a grëwyd gan Jane i helpu pobl ifanc i edrych ar eu rhwystrau a datblygu eu hyder, tra’n dysgu technegau gwallt a cholur a sgiliau gwerthfawr eraill at eu dyfodol.
Treuliodd y rhai a oedd yn mynychu'r sesiynau prynhawn amser gyda James Hunt, cyn-filwr a pherchennog cwmni peirianneg gwresogi lleol o’r enw CAFgas. Treuliodd James amser yn hyfforddi’r bechgyn ar sut i ddefnyddio teclynnau torri, offer diogelwch gan ganolbwyntio ar greu bwrdd a chanwyllbrenni wedi’i greu gyda phibelli copr.
Dywedodd Alice Williams, Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu Sir y Fflint:
“Er bod gan Sir y Fflint un o’r lefelau isaf o NEET yng Nghymru, ac er bod y duedd gyffredinol yn dod i lawr, rydym angen ymgysylltu â’r bobl ifanc, mae gan lawer ohonynt amryw o heriau bywyd, ac rydym angen eu hannog i edrych ar yr opsiynau a’r dewisiadau bywyd posibl at y dyfodol ac ati. Rydym yn gobeithio gweithio mewn partneriaeth â'n pobl ifanc i nodi nodau a nodau realistig. Yn bwysicach oll, rydym angen gweithio gyda nhw fel eu bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ar gael ac yn elwa ohono.
“Mae ein tîm yn gweithio’n galed i gynnig cymaint o brofiadau gwahanol â phosibl i’r bobl ifanc yma ac rydym wedi penodi Katy Griffiths yn ddiweddar, sef ein Cydlynydd Addysg Amgen newydd a fydd yn cefnogi'r tîm i ehangu'r ddarpariaeth sydd ar gael. Mae'r gweithdai hyn yn llwyddiannus iawn a bydd Sir y Fflint yn gobeithio cynnal mwy ohonynt yn y dyfodol”.
Mae’r tîm yn gweithio gyda llawer o sefydliadau ac wedi datblygu dull cymunedol o gefnogi pobl ifanc ar draws Sir y Fflint. Galwodd Sid Madge, Sylfaenydd Rhaglen Meee (My Education Employment Enterprise), sydd yn helpu unigolion o bob oedran i adnabod eu cryfderau, sgiliau a gwerthoedd naturiol, ymwelodd â grwp y prynhawn i ddal i fyny â rhai o'r dynion ifanc roedd wedi gweithio yn y gorffennol.
Dywedodd Jane Bellis:
“Mae darpariaeth addysg amgen mor bwysig ac mae angen cydnabod y pwer a’r potensial posibl. Rydym angen cyfleu’r neges mor eang â phosibl, trwy rymuso a rhoi hwb i'n pobl ifanc mwyaf diamddiffyn, gallwn wneud newidiadau sylweddol o fewn ein cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol. Mae’r oes yn newid yn gyflym ac rydym ni’n byw mewn cymdeithas amrywiol ond dan lawer o bwysau – mae hi’n bryd i ni ddod o hyd i ffyrdd arloesol a chadarnhaol i ddal fyny.”
Dywedodd un person ifanc:
“Dwi wrth fy modd gyda’r cwrs - dwi ddim eisiau iddo ddod i ben Dwi yn y coleg rwan ar gwrs Academi’r Haf, a dwi’n ei fwynhau’n fawr. Dwi’n falch fy mod wedi gwneud hyn ac mi faswn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n ei ystyried i roi cynnig arni – does gennych ddim i’w golli! Dwi’n gobeithio dod o hyd i gwrs addas gyda chymorth a chefnogaeth y bobl yma a dod o hyd i swydd rhyw ddydd”.
Ariannwyd y rhaglen gyntaf trwy Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y merched, gyda Gwobrau'r Loteri Genedlaethol i Bawb yn cefnogi 12 sesiwn bellach (6 ar gyfer y bechgyn a 6 ar gyfer y merched). Cefnogwyd y prosiectau hefyd gan grantiau o Moving On Wrexham – elusen sydd yn dyfarnu grantiau unigol, o hyd at £250, i gefnogi pobl ifanc o deuluoedd incwm isel, i symud ymlaen tuag at waith, addysg, hyfforddiant neu wirfoddoli ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam a Sir y Fflint.
I gael rhagor o wybodaeth neu os ydych chi’n gwmni neu’n unigolyn a hoffai gymryd rhan, cysylltwch ag Alice Williams ar 01352 704065 neu anfonwch e-bost at alice.williams@flintshire.gov.uk.
Jason a Cira gyda'u tystysgrifau
|
Charlie a Tom gyda’u tystysgrifau a’r bwrdd y gwnaethant ei adeiladu
|
Alice Williams, Jane Bellis, Alice Marple – tiwtor gwirfoddol a Katy Griffiths gyda Jason a Cira
|
|
|
|
Amser pizza!
|
Canwyllbrenni a grëwyd gan y bechgyn
|
Jason yn dangos ei bortffolio o waith i Katy
|