Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint mewn Busnes yn cynnal digwyddiad Cysylltedd Digidol
Published: 12/07/2019
Yn ddiweddar croesawodd y tîm Busnes yng Nghyngor Sir y Fflint gynrychiolwyr o fusnesau lleol i weithdy ar bwysigrwydd cysylltedd digidol.
Darparodd Niall Waller, Rheolwr Gwasanaeth Menter ac Adfywio, fanylion am flaenoriaethau Strategaeth Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru, yn cynnwys trosolwg o:
• Gynyddu darpariaeth isadeiledd ffeibr
• Isadeiledd o’r radd flaenaf ar gyfer safleoedd cyflogaeth strategol
• Gwell cysylltedd ar hyd llwybrau strategol
• Datblygu datrysiadau i ddiwallu anghenion cymunedau gwledig
• Cynyddu nifer y busnesau sy’n mabwysiadu technolegau newydd
• Llenwi mwy o fylchau o ran darpariaeth cysylltedd digidol cyflym iawn
• Adnoddau - £9m wedi’i sicrhau drwy’r Rhwydwaith Ffeibr Cyflym Lleol a’r £34m arfaethedig drwy Fargen Dwf Gogledd Cymru
Yna fe esboniodd Rachael Evens, Pennaeth Masnachfraint a Marchnata i gwmni Jackson Fire & Security, Yr Wyddgrug, sut yr oedd eu busnes wedi croesawu cysylltedd digidol ac o ganlyniad wedi gweld gwelliant o ran effeithlonrwydd busnes a phroffidioldeb.
Dywedodd Steve Jackson, Rheolwr Gyfarwyddwr Jackson Fire & Security:
“Roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad cysylltedd digidol a chael y cyfle i ddangos sut mae cysylltedd digidol wedi gwella ein prosesau busnes. Braf oedd cael rhwydweithio â busnesau eraill yn Sir y Fflint a chael clywed sut mae cysylltedd digidol wedi helpu cynhyrchiant eraill hefyd. Digwyddiad ardderchog ac roeddem yn ddiolchgar iawn o gael cymryd rhan”.
Darparodd Karlos O’Niell, Rheolwr Partneriaethau, Cyflymu Cymru I Fusnesau, drosolwg o’r cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau er mwyn galluogi cysylltedd digidol, yn cynnwys cynlluniau talebau i gefnogi isadeiledd.
Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn wasanaeth cymorth rhad ac am ddim i fusnesau, sy’n helpu busnesau bychain a chanolig cymwys yng Nghymru i wneud y mwyaf o dechnoleg ar-lein, hybu gwerthiant a gwella cynhyrchiant. I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ewch i https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy.