Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweithdai am ddim i yrwyr hyn
Published: 20/01/2015
Mae gyrwyr 65 oed neu’n hyn yn cael cynnig sesiwn yrru am ddim. Cynhelir
gweithdai am ddim gan Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint i bobl
dros 65 oed sy’n ystyried mynychu asesiad gyrru am ddim neu sy’n adnabod rhywun
arall a hoffai wneud hynny.
Gall hyfforddwyr Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru gynnig cyngor
defnyddiol ynglyn â sut i addasu’ch arddull gyrru wrth fynd yn hyn. Bydd hyn
yn eich helpu chi a defnyddwyr eraill y ffyrdd i gadw’n ddiogel a’ch cadw chi y
tu ôl i’r llyw yn hirach.
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet
dros yr Amgylchedd:
“Rwy’n annog pob preswylydd dros 65 oed i achub ar y cyfle hwn i gael sesiwn
yrru am ddim. Wrth i ni heneiddio, gall y newidiadau yr ydym yn mynd trwyddyn
nhw effeithio ar y ffordd yr ydym yn gyrru. Rhai o’r rhain o bosibl yw y bydd
ein hamser ymateb yn arafu, efallai y byddwn yn cymryd mwy o amser i ddod i
benderfyniadau a gall gyrru fod yn fwy blinedig a straenllyd. Mae rhai gyrwyr
yn sylwi ar y newidiadau hyn mor gynnar a chanol eu pumdegau. Wrth iddyn nhw
heneiddio, gall y mwyafrif o bobl ddal ati i yrru’n ddiogel heb unrhyw
broblemau, ond mae hyn yn haws i’w wneud gydag ychydig o help gan weithiwr
gyrru proffesiynol.”
Cynhelir dau weithdy am ddim yn Sir y Fflint sef dydd Iau 22 Ionawr am 1.30pm
yng Nghanolfan Fusnes Maes Glas, Maes Glas, CH8 7GR; a’r llall ddydd Mercher 11
Chwefror am 1.30pm yng Nghlwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug.
I archebu lle yn un o’r gweithdai, neu i gael mwy o wybodaeth, ffoniwch yr Uned
Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01352 704498.