Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
Published: 16/01/2015
Bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor blynyddol
ddydd Mawrth (20 Ionawr).
Maer Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor yn ostyngiad a delir i aelwydydd ar
incwm isel iw helpu nhw i dalu eu biliau Treth y Cyngor. Maen gynllun
cenedlaethol gyda’r prif reoliadau yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, gan
roi rhai pwerau i Gyngor Sir y Fflint wneud penderfyniadau.
Maer Cyngor yn bwriadu parhau i ddefnyddior un meysydd o ddisgresiwn â’r
flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Sef:
- parhau i anwybyddu pensiynau anabledd rhyfel a phensiynau gweddwon rhyfel fel
incwm.
- peidio â chynyddur cyfnod talu estynedig i fwy na phedair wythnos pan fydd
ymgeisydd yn dechrau gweithio.
- cynnal y darpariaethau ôl-ddyddio tri mis safonol ar gyfer pensiynwyr pan
roddir rheswm da dros fethu hawlio ynghynt.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
“Er nad oes unrhyw arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i ariannur
elfennau dewisol, rydw i’n falch o ddweud bod Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor
arfaethedig Sir y Fflint ar gyfer 2015-2016 yn cefnogi parhau i ddiystyru pob
pensiwn anabledd rhyfel a phensiwn gweddwon rhyfel fel incwm.”