Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Newid cyflenwr ynni
Published: 16/01/2015
Gall trigolion Sir y Fflint ymuno â chynllun prynu ynni cyfunol Cymru gyfan, a
ddylai eu galluogi i arbed arian ar eu biliau tanwydd.
Mae Cyd Cymru yn brosiect newid cyflenwr ynni a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Newid cyflenwr ynni ar y cyd yw pan mae nifer fawr o gartrefi’n dod at ei
gilydd i brynu ynni, a thrwy wneud hynny gall Cyd Cymru drafod gwell
bargeinion, syn arwain at arbedion i ddefnyddwyr. Po fwyaf o bobl syn cymryd
rhan, y mwyaf ywr potensial i gael gwell bargen.
Disgwylir i Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyor cynllun ddydd
Mawrth (20 Ionawr). Ar ôl arwyddo Siarter y cynllun, bydd gan y
Cyngor wedyn statws partner ar y cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd:
“Byddwn yn annog holl drigolion Sir y Fflint i gofrestru gyda Cyd Cymru. Drwy
ymuno gydai gilydd i brynu ynni, gall cartrefi gael gwell bargeinion. Pan
fyddwch yn cofrestru gyda Cyd Cymru nid oes unrhyw gost neu rwymedigaeth i
newid, ond unwaith y bydd y cynnig hwn ar gael ym mis Mawrth, byddwch yn gallu
gweld faint o arian allech chi ei arbed cyn i chi benderfynu a ydych am newid.
Byddwch hefyd yn gallu gweld sut mae hyn yn cymharu â thariff y farchnad
bresennol. Y llynedd, roedd y cynllun wedi helpu aelwydydd ledled Cymru i arbed
cyfartaledd o £185 y flwyddyn ar eu biliau ynni.
Gall trigolion gofrestru i dderbyn cynnig prisiau ynni heb unrhyw orfodaeth ym
Mawrth naill ai ar-lein yn www.cydcymru-energy.com neu drwy ffonio 0800 093
5902.