Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cronfa Gofal Canolraddol
Published: 16/01/2015
Bydd llwyddiant cronfa flwyddyn i gefnogi gwasanaethau Gofal Canolraddol newydd
neu ychwanegol, ac i annog gweithio integredig rhwng awdurdodau lleol, Iechyd a
phartneriaid eraill, yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor ddydd Mawrth (20
Ionawr).
Mae gwasanaethau gofal canolraddol yn cael eu darparu i gleifion iw helpu i
osgoi mynd ir ysbyty yn ddiangen, eu helpu i fod mor annibynnol â phosibl ar
ôl eu rhyddhau or ysbyty, a’u rhwystro rhag gorfod symud i mewn i gartrefi
preswyl neu gartrefi nyrsio nes y mae angen iddynt wneud hynny.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Gronfa Gofal Canolraddol ar gyfer 2014/15 ac mae
Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn arwain y gwaith o reolir gronfa ar ran Gogledd
Cymru. Roedd cais Sir y Fflint yn seiliedig ar ffocws cyson ar wella
gwasanaethau ar gyfer pobl â dementia.
Drwyr Gronfa, mae nifer o brosiectau wedi eu cyflwynon llwyddiannus yn y sir
yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar
gefnogi pobl yn y gymuned.
Maer rhain yn cynnwys buddsoddi mewn dulliau cam i lawr ar gyfer pobl syn
barod i ddod allan or ysbyty ond sydd angen rhagor o gefnogaeth yn y gymuned
cyn y gallant ddychwelyd adref. Maer Gronfa wedi galluogi rhoi gwelyau cam i
lawr gofal canolraddol mewn tri chartref gofal (Llys Gwenffrwd, Marleyfield a
Chroes Atti). Mae gwely hefyd wedi ei ddarparu yn Nhy Cerrig, Caergwrle, er
mwyn caniatáu ar gyfer asesiad dementia yn y gymuned. Yn y gymuned, maer
gronfa wedi caniatáu i ofal dementia arbenigol gael ei ymestyn.
Maer gronfa hefyd wedi cefnogi gweithion agos gydar sector gwirfoddol gan
gynnwys Gofal a Thrwsio Sir y Fflint, sydd â staff wedi eu hyfforddin arbennig
i ddarparu cymorth ymarferol i bobl sydd â thueddiadau casglu, fel y gallant
ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl arhosiad yn yr ysbyty. Maer Gronfa hefyd
wedi ei defnyddio i gefnogi cyflwyno opsiynau tai gwell i bobl hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau
Cymdeithasol:
“Mae Sir y Fflint yn cael ei gydnabod fel sir sy’n arwain y ffordd o ran gofal
dementia, gyda gwasanaethau fel caffis dementia, tai gofal ychwanegol arbenigol
a chefnogaeth gofal yn y cartref o safon. Rwyf yn hynod o falch bod y Gronfa
Gofal Canolraddol wedi ein galluogi i ddarparu cefnogaeth a chyfleusterau
ychwanegol, ai fod wedi ein galluogi i adeiladu ar ein partneriaethau i
sicrhau bod mwy o wasanaethau gwell ar gyfer yr holl breswylwyr.