Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cefluniaun coroni gwaith adfywio ar hyd y glannau yn Saltney
Published: 04/02/2015
Mae pedwar cerflun newydd wedi’u gosod ar y llwybr beicio rhwng River
Lane, Saltney, a phont droed Saltney Ferry.
Mae’r cerfluniau’n rhan o brosiect amlasiantaeth ar y themâu: treftadaeth, y
celfyddydau, hygyrchedd a bywyd gwyllt ar hyd y llwybr beicio.
Mae’r pedwar cerflun 7 troedfedd, pwrpasol hyn, gan yr artist nodedig, Mike
Johnson, wedi’u creu i adlewyrchu goleuni ar hyd yr arfordir a’r planhigion
lleol a welodd plant ysgol lleol yn ystod ymweliad â’r safle’r llynedd yng
nghwmni Mike.
“Mae pob un o’r cerfluniau’n wahanol ac yn darlunio persli, dant y llew a brwyn
cyffredin ond yn y manylion y mae’r harddwch” meddai’r artist Mike Johnson.
“Ym mhob un cerflun, mae eitemau sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol a
naturiol Saltney ac afon Dyfrdwy, o gocos i ganhwyllau, o rybedion i’r
diwydiant adeiladu cychod ac eitemau’n ymwneud â’r rheilffordd.”
Mae’r llwybr cerfluniau’n cyfeirio at Ferryman Saltney Ferry ac, wrth ystyried
y llwybrau troed newydd, yr olygfan, y gwrych peillio, y rhodfa goed, y paneli
dehongli a cherflun
Saltney Sid, mae effaith yr holl waith o adfywio glan yr afon yn mynd ymhell y
tu hwnt i’r prosiectau unigol.
“Mae pob cerflun yn cynnwys llwybr hanes rhyngweithiol sy’n gweithio drwy
ddefnyddio’r codau QR ym mhob darn,” meddai’r Ceidwad Cefn Gwald, Karen Rippin.
“Mae pawb wedi gweithio’n galed iawn ac mae’n werth mynd i’w gweld.”
Mae’r prosiect yn rhan o gynllun adfywio sylweddol ar hyd glan yr afon, mewn
partneriaeth â Chyngor Tref Saltney, Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint,
Cyfoeth Adnoddau Cymru, Cadwyn Clwyd, Asiantaeth Datblygu Cefn Gwlad Sir y
Fflint a Sir Ddinbych. Cyngor Sir y Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru sy’n
berchen ar y tir. Cadwyn Clwyd lwyddodd i sicrhau’r rhan fwyaf o’r arian ar
gyfer y prosiect a hynny gan Gynllun Datblygu Cymru Wledig, a ariennir gan
Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
“Rwy’n hynod falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni drwy’r prosiect amlasiantaeth
hwn. Mae’n enghraifft wych o’r gwaith o adfywio’r arfordir sy’n mynd rhagddo yn
Sir y Fflint ac mae’n fuddsoddiad gwych yn ein cymuned,” meddai Bernie
Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd. “Ein nod yn
awr yw cysylltu’r rhan hon o’r glannau â Chaer, gan roi Saltney ar y map yn
bendant fel Porth i Gymru.”
Dywedodd Maer Cyngor Tref Saltney, y Cynghorydd Alan Evans, “Rydym wedi gweld
ein cymuned yn cael ei gosod yn bendant ar fap Cymru eleni gyda chymorth ein
partneriaid a hoffem ddiolch yn arbennig i Karen Rippin, Ceidwad Cefn Gwlad, am
roi’r prosiect ar waith ac i Cadwyn Clwyd am ariannu 70% o’r prosiect. Mae
Cyngor Tref Saltney yn rhoi ei gefnogaeth lawn i’r prosiect ac mae wedi
cyfrannu £12,000 ato.
Mae’n braf gweld y cynllun yn dod i fwcwl” meddai Sarah Jones,
Swyddog yr Amgylchedd a Threftadaeth Cadwyn Clwyd, “ Rydym wedi bod yn fwy na
pharod i gefnogi’r prosiect adfywio ardderchog hwn ar ran mor hanesyddol o
arfordir Cymru a Llwybr Arfordir Cymru.”
Delweddau o’r cerfluniau: