Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref i agor or newydd
Published: 21/01/2015
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn agor safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd yn
Sandycroft ddydd Llun 26 Ionawr.
Bydd y safle newydd ar Prince William Avenue yn cynnig cyfleusterau ailgylchu a
gwaredu gwastraff llawn. Mae’r safle wedi’i lunio i’w gwneud yn haws i
drigolion Sir y Fflint ailgylchu eu gwastraff. Nid oes unrhyw risiau i’w
dringo a phwrpas y safle yw i drigolion ailgylchu a dargyfeirio cymaint ag sy’n
bosibl o’u gwastraff o safleoedd tirlenwi.
Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros y Strategaeth Wastraff,
Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden:
Mae hwn yn safle newydd gwych i bobl Sir y Fflint. Mae’n hawdd i’w ddefnyddio
a byddwn yn annog preswylwyr i roi blaenoriaeth i ailgylchu wrth ddefnyddio’r
cyfleuster. Rydym am i’r safle fod yn un o’r rhai uchaf eu perfformiad yng
Nghymru, neu hyd yn oed y DU”.
Bydd agor y safle newydd hwn yn arwain at gau safleoedd ailgylchu llai yn
Queensferry a Saltney.
Bwriedir agor y safle’n swyddogol yn ddiweddarach yn y mis.