Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Beicio ir Gwaith
Published: 04/02/2015
Mae Cynllun Beicio i’r Gwaith Cyngor Sir y Fflint yn ôl a bydd cyfle i ymuno
â’r cynllun rhwng 9 Chwefror a 27 Chwefror 2015.
Cynllun sydd wedi’i eithrio rhag treth ac yswiriant gwladol yw’r Cynllun Beicio
i’r Gwaith i annog pobl i deithio i’r gwaith mewn ffordd iachach gan leihau
llygredd a thagfeydd.
Drwy gymryd rhan yn y cynllun, gall gweithwyr arbed hyd at 25 y cant oddi ar
gost beic drwy’r trethi a’r cyfraniadau yswiriant gwladol y byddant yn ei dalu,
gan ddibynnu ar eu band treth incwm.
Nod y Cyngor yw dangos manteision y Cynllun Beicio i’r Gwaith ac annog
cyflogwyr eraill i gynnig dull arall o deithio i’r gwaith i’w staff gan
hyrwyddo beicio fel rhan o ffordd iach o fyw bob dydd. Gall cyflogwyr o bob
maint yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol weithredu cynllun benthyca
di-dreth i’w staff.
Aeth Cyngor Sir y Fflint ati, ar y cyd â P & MM, asiantaeth gwasanaethau
marchnata sy’n arbenigo mewn gwella perfformiad, i lansio’r cynllun ym mis Awst
2009 yn wreiddiol. Ers hynny, mae tua 340 wëid cymryd rhan yn y cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd:
“Mae manteision lu i’r cynllun Beicio i’r Gwaith, o wella iechyd i helpu’r
amgylchedd. Mae’r Cyngor wedi bod yn rhan o’r cynllun ers pedair blynedd a
byddwn yn annog unrhyw un sy’n gallu, i ymuno a beicio i’r gwaith. Waeth beth
yw maint eich busnes, gall bawb ymuno a byddwn yn ei argymell i holl gyflogwyr
y Sir.”
Gall gweithwyr y Cyngor gofrestru i gymryd rhan yn y Cynllun Beicio i’r Gwaith
rhwng 9 Chwefror a 27 Chwefror 2015.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Beicio i’r Gwaith, ewch i wefan yr Adran
Drafnidiaeth:
http://www.dft.gov.uk/pgr/sustainable/cycling/cycletoworkguidance/