Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Codi Baneri y Gymanwlad: 9 Mawrth 2015
Published: 10/02/2015
Am y tro cyntaf mewn hanes morwrol, bydd un llong ar ddeg cwmni llongau P&O a
Cunard yn codi baner y Gymanwlad mewn amryw o leoliadau wrth iddynt deithio o
amgylch y byd am 10am ddydd Llun 9 Mawrth 2015. Yn Sir y Fflint, caiff y faner
ei chodi yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.
Er mwyn adeiladu ar y digwyddiadau agoriadol hynod lwyddiannus a gynhaliwyd y
llynedd, bydd dros 650 o faneri’r Gymanwlad yn cael eu codi mewn 38 o wledydd y
Gymanwlad fel rhan o’r fenter unigryw. Mae wedi dal dychymyg miloedd o
gyfranogwyr o bob cwr o’r byd, ac mae wedi galluogi pobl o bob oedran i gymryd
rhan yn eu cymunedau lleol ac ymuno ag eraill ledled y byd i fod yn
gysylltiedig ag ymrwymiad cyhoeddus eang i’r Gymanwlad, i werthfawrogi ei
gwerthoedd a’r cyfleoedd a gynigir i’w dinasyddion.
Meddai Bruno Peek LVO OBE OPR, Meistr y Pasiant Fly a Flag for the
Commonwealth: Rwy’n falch iawn fod cwmni llongau P&O a Cunard yn cymryd rhan
fel hyn ac yn canmol eu blaengarwch ac rwy’n gobeithio y bydd y rheiny ar fwrdd
y llong y bore hwnnw yn mwynhau’r profiad unigryw.
Am y tro cyntaf, bydd Cadetiaid yr Awyrlu Brenhinol yn cymryd rhan yn y fenter
ar 9 Mawrth 2015. Bydd Baneri’r Gymanwlad yn cael eu codi gan Gadetiaid Awyr
ym mhob un o’r chwe Corfflu Hyfforddiant Awyr. Mae cysylltiadau agos rhwng
Cadetiaid Awyr y DU a Chadetiaid yng ngwledydd eraill y Gymanwlad a bydd y
Cadetiaid yn falch o ddathlu gwerthoedd y Gymanwlad ar 9 Mawrth 2015.
Bydd Datganiad y Gymanwlad arbennig yn cael ei ddarllen ym mhob seremoni cyn
codi Baner y Gymanwlad am 10am y bore hwnnw.
Yn Sir y Fflint, arweinir y digwyddiad gan Gadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd
Glenys Diskin. Meddai: “Mae’n fraint cael codi Baner y Gymanwlad ar ran Cyngor
Sir y Fflint ar Ddiwrnod y Gymanwlad. Rwy’n siwr y bydd y fenter hon, sy’n uno
cymunedau o dan un digwyddiad, lle bydd baneri’n cael eu codi ar yr un pryd, yn
codi ymwybyddiaeth o’r Gymanwlad a’r hyn y mae’n ei gynrychioli i bawb, boed
drwy sefydliadau lleol, cenedlaethol neu fudiadau elusennol.
Bydd timau elusennol ‘Fields of Life’, sef elusen o ogledd Iwerddon ac Uganda,
yn nodi’r diwrnod drwy fynd â Baneri’r Gymanwlad i bedwar copa uchaf y DU ac yn
defnyddio’r achlysur i godi arian gwerthfawr i’w achos da: Scafell Pike, Lloegr
- Yr Wyddfa, Cymru - Ben Nevis, Yr Alban a Slieve Donard, Gogledd Iwerddon.
Bydd yr elusen hefyd yn codi’r faner mewn ysgolion ledled Ugandar diwrnod
hwnnw.
Codir Baneri’r Gymanwlad mewn sawl lleoliad pwysig y bore hwnnw, gan gynnwys
chwe seremoni ar ynys George Cross ym Malta; Dinas Wellington yn Seland Newydd,
Belize, Jamaica, Mawrisiws, Sri Lanka; Lowestoft, Suffolk, y dref fwyaf
dwyreiniol yn Lloegr; Unst ar Ynysoedd Shetland, yr Ynys breswyliedig fwyaf
deheuol yn yr Alban; Gorsaf Ymchwil Rothera ar benrhyn Antartica; a Tristan Da
Cunha, yr ynys breswyliedig fwyaf anghysbell yn y byd - i enwi dim ond rhai.
Codir baneri hefyd yng ngwesty’r Rye Lodge, sef gwesty mwyaf Dwyrain Sussex, a
gwesty’r Cliff yn Gorleston-on-Sea, Great Yarmouth, yn ogystal â gwledydd
eraill y Gymanwlad sy’n cynnwys cyn-filwyr y Gymanwlad, ynghyd â Sgowtiaid a
Geidiau. Bydd yn dod â phobl o bob oedran at ei gilydd i ddathlu’r teulu mawr
hwn o genhedloedd gyda’i gilydd.
Yn Tonga lle mae amser yn dechrau, mae Cymdeithas Geidiau Teyrnas Tonga
(GGAKT) yn arbennig o falch o gael bod y wlad gyntaf yn y byd i godi baner y
Gymanwlad am 10.00 fore Llun 9 Mawrth 2015, gan arwain ieuenctid y Gymanwlad yn
y digwyddiad unigryw, hanesyddol a byd-eang hwn y bore hwnnw, rydym hefyd yn
hapus iawn ac yn edrych ymlaen at y diwrnod, ac yn benderfynol gydag ieuenctid
Tonga o fwynhau ein cysylltiad i gefnogi Siarter y Gymanwlad, yr ydym yn
ddyledus iawn iddi”, meddai Halaevalu Mangisi Palu, Prif Gomisiynydd (GGAKT).
Meddai Ei Ardderchowgrwydd Kamalesh Sharma, Prif Ysgrifennydd y Gymanwlad:
Mae menter ‘Fly a Flag for the Commonwealth’ yn ffordd greadigol i bobl mewn
cymunedau lleol - ble bynnag y maent yn byw, dysgu neu weithio, i ymuno ag
eraill ym mhob rhan o’r Gymanwlad mewn ymdeimlad o barch a dealltwriaeth i
ddathlu amrywiaeth digyffelyb ein teulu byd-eang. Rwy’n ei groesawu a’i
ganmol.
Gall ein holl ddinasyddion, yn arbennig y rhai ifanc, fynegi eu
gwerthfawrogiad o’r Gymanwlad a’r gwerthoedd y mae’n eu cynrychioli, fel y’u
nodir yn Siarter y Gymanwlad, a’r cyfleoedd cyfoethog y mae’n eu cynnig ar
gyfer cymorth ar y cyd tuag at gynnydd economaidd cymdeithas gynhwysol a
thecach.”
DIWEDD
NODYN I OLYGYDDION:
Gwybodaeth bellach a rhestr lawn o’r rheiny sy’n cymryd rhan yn y fenter Fly a
Flag for the Commonwealth:
Bruno Peek LVO OBE OPR
Meistr Pasiant
Ffôn: 07737 262 913
E-bost: pageantmaster@mac.com
Cymdeithas Geidiau Teyrnas Tonga:
Halaevalu Mangisi Palu - Prif Gomisiynydd
E-bost: hmvpalu@yahoo.com
Fields of Life:
Helen Darcy
Ffôn: 02838 390 395
E-bost: helen.darcy@fieldsoflife.org
Ysgrifennyddiaeth y Gymanwlad
David Banks - Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus Prif Ysgrifennydd y Gymanwlad
Ffôn: 0207 747 6130
E-bost: d.banks@commonwealth.int
Cwmni Llongau P&O a Cunard:
Michele Andjel
Ffôn: 02380 656 653
E-bost: michele.andjel@carnivalukgroup.com