Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cais Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas i Gronfa Dreftadaeth y Loteri
Published: 12/02/2015
Mae disgwyl i’r Cabinet gymeradwyo cais am arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri
i ailddatblygu Amgueddfa a Threftadaeth Dyffryn Maes Glas ddydd Mawrth (17
Chwefror).
Nod prosiect Datgelu Dyffryn Maes Glas yw rhoi’r ardal yn bendant ar y map o
ran ei phwysigrwydd hanesyddol. Bydd y gwaith arfaethedig yn golygu ailwampio a
thrwsio adeiladau hanesyddol ac ymestyn ac ailfodelu’r dderbynfa. Caiff
arweinydd gweithgareddau ei ddefnyddio i redeg rhaglen o ddigwyddiadau a
gweithgareddau, a chaiff y cyfryngau digidol eu defnyddio fel rhan o gynlluniau
i greu dulliau gwell o ddehongli adeiladau a chasgliadau. Bydd mannau clywedol
ar gael i glywed atgofion a gasglwyd yn sgil prosiect hanes. Bwriedir hefyd
fynd ati i wella’r llwybrau a’r mynedfeydd.
Cyngor Sir y Fflint yw perchennog Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes
Glas a chaiff ei reoli gan Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas. Mae Cyngor Sir y
Fflint wedi ymrwymo i gael hyd i ddulliau cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau
lleol ac asedau cyhoeddus, gan gynnwys Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn
Maes Glas. Yn 2013, cafodd y prosiect gymeradwyaeth Cylch 1 gan Gronfa
Dreftadaeth y Loteri, ac mae’n awr yn barod i’w gyflwyno ar gyfer dyraniadau
Cylch 2, gan obeithio cael dros £940,000 o gyllid.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd:
“Mae Datgelu Dyffryn Maes Glas yn gynnig gwych a chanddo amcanion uchelgeisiol.
Wrth wraidd y prosiect y mae cyfraniad Maes Glas at y chwyldro diwydiannol,
sydd wedi creu’r byd yr ydym yn ei adnabod heddiw.”
Yn ôl y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg, sy’n gyfrifol
am lyfrgelloedd, diwylliant ac amgueddfeydd:
“Mae hwn yn gynnig cyffrous iawn. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yn datgelu
hanes cudd yr ardal a’r rhai a fu’n byw ac yn gweithio yma. Rydyn yn rhagweld y
bydd hyn yn deny gwirfoddolwyr ac ymwelwyr.”
Delweddau