Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosiect Campws Queensferry - Oedi ac Adolygu
Published: 16/02/2015
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Campws Queensferry yn cael ei drafod
yn y Cabinet ddydd Mawrth (17 Chwefror).
Ym mis Hydref 2014, cyhoeddodd y Cyngor ei fod yn oedi ac yn adolygu cynnydd ar
Brosiect Campws Queensferry, adeilad ysgol newydd a oedd i gymryd lle Ysgol
Uwchradd John Summers ac adnewyddur Ysgol Gynradd Queensferry cyfagos.
Roedd y Cyngor wedi gwneud ymrwymiad polisi i ddatblygu achos busnes ar gyfer
ysgol i blant 3-16 oed a champws newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd John Summers.
Cafodd yr oedi ac adolygu ei gynnal yn dilyn pryder am wydnwch y data sydd ei
angen i gefnogir achos busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer ariannu o dan ei
Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Cynhaliwyd yr adolygiad o ganlyniad i
wybodaeth ddiweddaraf a gostyngiad yn yr union nifer o ddisgyblion ac a
ragwelir yn yr ardal.
Nawr bod yr adolygiad wedii gwblhau, yr argymhelliad ir Cabinet yw peidio
bwrw ymlaen ag ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Uwchradd John Summers ac i
ddechrau cyfnod o ymgynghori ffurfiol ar y ffordd orau i sicrhau addysg wydn,
gynaliadwy, o ansawdd uchel yn yr ardal.
Meddai Ian Budd, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid:
“Rydym yn deall y lefel o siom yn y gymuned. Fodd bynnag, mae gennym
ddyletswydd i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd
fwyaf effeithlon posibl i gefnogi dysgwyr. Er mwyn i raglen adeilad ysgol
newydd fynd yn ei blaen, ac i sicrhau cyllid cyfalaf, mae’n rhaid i achos
busnes gwrdd â nifer o brofion. Roedd yn rhaid i ni fod yn hyderus y byddai
yna ddigon o ddisgyblion dros y blynyddoedd nesaf ac yn y dyfodol yn yr ysgol,
ac nid dyma’r achos.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg:
“Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn seiliedig ar 600 o leoedd mewn ysgol
uwchradd, ond nid oes digon o niferoedd cyfredol ac arfaethedig o ddisgyblion i
gefnogi hyn. Er bod cadarnhad yr wythnos ddiwethaf o’r ffordd gyswllt sydd
wedii chynllunio trwy safle datblygu’r Porth Gogleddol, nid ywn newid y lefel
datblygu tai y gellir ei wneud yno neur angen a aseswyd am leoedd mewn
ysgolion lleol - ac ni fydd y datblygiad yn cael ei gwblhau am rai blynyddoedd.
Mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan ostyngiad a ragwelir mewn cyfraddau
geni.
“Maer corff llywodraethu wedi mynegi barn eu bod yn dymuno osgoi cyfnod hir o
ansicrwydd ir ysgol ar gymuned leol. Y cam nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth
y Cabinet ddydd Mawrth, fydd dechrau ymgynghoriad ffurfiol i edrych ar hyfywedd
yr ysgol bresennol yn y dyfodol. Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn destun
gweithdrefnau ymgynghori statudol llawn.
“Maer penderfyniad hwn hefyd yn golygu bod y penderfyniad cynharach i gynnwys
darpariaeth Dosbarth Meithrin yn Ysgol Gynradd Queensferry fel ysgol i blant 3
i 11 oed yn aros fel y mae.