Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arolwg Canol Trefi
Published: 25/02/2015
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi comisiynu BMG Research i gynnal arolwg o gartrefi
yn Sir y Fflint.
Bydd BMG yn gofyn i drigolion sut maent yn defnyddio canol trefi yn ac o
amgylch Sir y Fflint ac yn gofyn am eu barn am y trefi a’u lefel o foddhad.
Bydd y cwmni yn anelu at gael barn 500 o gartrefi a ddewiswyd ar hap dros y
ffôn yn ystod diwedd mis Chwefror a dechrau Mawrth.
Bydd y Cyngor yn defnyddior gwaith ymchwil hwn i lywio rhaglen gefnogaeth ar
gyfer canol trefi yn y dyfodol a bydd y canfyddiadau dienw ar gael ar wefan y
Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Mae canol trefi ar draws y DU yn wynebu cyfnod economaidd heriol. Mae
cefnogi canol trefi yn flaenoriaeth strategol ir Cyngor ac maen hanfodol bod
y gwaith hwn wedi ei lywio gan dystiolaeth gadarn. Mae barn preswylwyr yn rhan
bwysig o hyn, a gobeithio y bydd trigolion yn cymryd y cyfle i rannu eu barn am
ganol trefi os bydd BMG yn cysylltu â nhw.