Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Stryd Fawr, Bagillt
Published: 25/02/2015
Mae cynigion ar gyfer Croesfan Sebra ar y Stryd Fawr ym Magillt bellach yn cael
eu hystyried fel rhan or cynllun diogelwch sy’n cael ei adeiladu yno ar hyn o
bryd.
Cytunwyd ar y cynllun yn dilyn cyfnod helaeth o ymgynghori, gan gynnwys
digwyddiad ymgynghori anffurfiol lle’r oedd nifer dda yn bresennol yn y neuadd
bentref lleol.
Gwnaed rhai newidiadau mewn ymateb i sylwadau trigolion lleol, gyda gostyngiad
yn y nifer o glustogau arafu, ac mae rhwystr gosod wedi’i roi ar ran orllewinol
y ffordd i leddfu pryderon a godwyd yn y digwyddiad ymgynghori.
Yna roedd y cynllun diwygiedig yn destun cyfnod hysbysebu statudol ffurfiol
pellach gyda rhybuddion ar y safle, yn y wasg, ac roedd cynlluniau hefyd ar
gael yn lleol iw harchwilio.
Derbyniwyd dau wrthwynebiad mewn ymateb ir hysbysebion, ac aeth y cynllun yn
ei flaen i’r cam contract.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy
Arweinydd:
“Maer Cyngor yn ymwybodol or aflonyddwch y mae’r cynllun tawelu traffig hwn
wedi’i achosi. Hoffem ddiolch i drigolion lleol, busnesau ar cyhoedd syn
teithio am eu hamynedd wrth i ni gwblhaur gwaith hwn, syn cael ei ariannu gan
gyllideb gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n ofynnol i’r gwaith gael ei gwblhau
erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
“Mae gostyngiad mewn mesurau ffisegol wedi arwain at arbedion o ran cost. Mae
hyn bellach wedi galluogi i Groesfan Sebra arfaethedig yng nghyffiniau Neuadd y
Coedwigwyr gael ei hailystyried - yn amodol ar fodloni gofynion cyfreithiol
statudol.
“Bydd cwblhaur gwaith hwn yn cyflawni gwelliannau diogelwch y mae mawr eu
hangen ir gymuned leol gan sicrhau bod Stryd Fawr Bagillt yn parhau i fod yn
lle diogel a gwerth chweil i breswylio ynddo ar gyfer cenedlaethaur dyfodol.”