Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Darganfod Llwyni - taflen newydd sy’n adrodd hanes gwarchodfa natur unigryw
Published: 05/03/2015
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi creu taflen newydd i arddangos
Gwarchodfa Natur Llwyni, rhwng Ewlo a Chei Connah.
Maer daflen yn tynnu sylw at y warchodfa unigryw hon, lle mae pobl a bywyd
gwyllt yn byw ac yn ffynnu ochr yn ochr.
Mae preswylwyr, datblygwyr lleol, grwp bywyd gwyllt lleol NEWwildlife a
Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor Sir wedi bod yn cydweithio ers y 1980au i
sicrhau bod pob cam newydd o ddatblygiad yn yr ardal yn ystyriol o fywyd gwyllt.
Yn 2000 daeth Llwyni yn Warchodfa Natur Leol oherwydd ei gwerth i fywyd gwyllt,
pobl ac addysg. Maer warchodfa wedi ei diogelu fel rhan o Safle o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig Pyllau a Choetiroedd Cei Connah. Mae hefyd yn rhan o Safle
Ardal Gadwraeth Arbennig Madfallod Glannau Dyfrdwy a Bwcle.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Dirprwy
Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Maer ffaith bod bywyd gwyllt yn ffynnu yng Ngwarchodfa Natur Llwyni heddiw yn
dyst i waith partneriaeth y preswylwyr, y datblygwyr lleol a Gwasanaeth Cefn
Gwlad y Cyngor Sir. Rydw i’n annog pobl i ddod draw a mwynhau’r ardal, lle mae
pyllau newydd wedi eu creu a lle fedrwch chi weld dolydd llawn blodau a
pherllan gymunedol arbennig. Mae angen diolch yn arbennig i’r canlynol am
gynhyrchu’r daflen - Pip Perry, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol ar y Cyd Llwyni;
tirfeddianwyr lleol, gan gynnwys Ian Roberts sydd wedi helpu Stephen Lewis,
Ceidwad Cefn Gwlad, gyda’r gwaith ymchwil; NEWwildlife; ac i David Wilson Homes
am noddir daflen yn rhannol a chynnal y lansiad.
Dywedodd Pip Perry, a chwaraeodd ran allweddol wrth sefydlu gwarchodfeydd natur
ddiwedd yr 80au a dechrau’r 90au ac sy’n cadeirio Bwrdd Ymgynghorol ar y Cyd
Llwyni:
“Sefydlwyd Bwrdd Ymgynghorol ar y Cyd Llwyni gan Gyngor Sir y Fflint yn 2000, i
weithio gyda pherchnogion tir, cyrff statudol a gwirfoddol, preswylwyr lleol a
datblygwyr i weithredu’r strategaeth ar gyfer Llwyni. Rydw i’n hapus iawn bod
datblygiad diweddaraf David Wilson Homes wedi cynnwys creu llwybrau troed i
drigolion ac ymwelwyr a gwella cynefin bywyd gwyllt.
Dywedodd Steve Jackson, Cyfarwyddwr Gwerthiant David Wilson Homes North West:
“Mae David Wilson Homes yn falch iawn o gefnogi Gwarchodfa Natur Llwyni a
hyrwyddo golygfeydd prydferth Cei Connah. Fel adeiladwyr cynaliadwy a
chydwybodol, rydym ni’n deall y pwyslais syn cael ei roi ar fywyd gwyllt a’r
amgylchedd naturiol. Rydym ni bob amser yn ceisio annog perchnogion ein tai i
barchu’r amgylchedd, drwy weithredu cynlluniau fel yr un yma mewn cymunedau
lleol a thrwy weithio â’r RSPB a Chymdeithas Gwenynwyr Prydain yn
genedlaethol. Mae Wepra Green wedi ei hen sefydlu yn y gymuned bellach ac
roeddem ni’n falch o dderbyn y cynnig i gymryd rhan.”
I gael mwy o wybodaeth am yr achosion da y mae cynllun Our Space, Your Place
David Wilson Homes North West wedi eu cefnogi, neu i wneud cais am gyllid, ewch
i www.ourspaceyourplace.co.uk.