Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pythefnos Masnach Deg yn Sir y Fflint
Published: 05/03/2015
Fel rhan o bythefnos Masnach Deg, rhwng 23 Chwefror ac 8
Mawrth, mae Sir y Fflint yn dathlu deng mlynedd ers sicrhau statws Sir Masnach
Deg.
Ym mis Rhagfyr 2003, cefnogodd Pwyllgor Gweithredol Cyngor Sir y Fflint
benderfyniad grwp o bobl i geisio sicrhau statws Masnach Deg i Sir y Fflint.
Eleni, bydd degawd wedi mynd heibio ers i’r sir ennill statws Masnach Deg,
statws y mae angen ei hadnewyddu bob dwy flynedd.
Dyfarnwyd statws Masnach Deg i Gynghrair Masnach Deg Sir y Fflint am hyrwyddo
cynnyrch a brynir yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr mewn gwledydd sy’n datblygu.
Maer Cyngor Sir yn rhan o’r Gynghrair honno ac mae’n gweini te a choffi
Masnach Deg ym mhob un o’i gyfarfodydd.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin:
Mae Cynghrair Sir y Fflint yn annog pawb i gefnogi Masnach Deg ac i werthu neu
weini cynnyrch Masnach Deg. Nid elusen yw Masnach Deg, yn hytrach mae’n
caniatáu i bobl helpu eu hunain drwy gael pris teg a rhesymol am eu cynnyrch.
Maer cynhyrchion o safon uchel, ac maent ar gael yn y rhan fwyaf o siopau’r
Stryd Faw. Maent yn cynnwys te, siwgr, coffi, siocled, gwin a bananas.
Mae marc Masnach Deg ar gynnyrch yn gwarantu:
-y bydd ffermwyr yn cael pris teg a sefydlog am eu cynnyrch syn helpu i
liniaru tlodi
-incwm ychwanegol i ffermwyr a gweithwyr ar blanhigfeydd i wella’u bywydau drwy
ddarparu cyflenwadau dwr ac ysgolion i blant
- mwy o barch ir amgylchedd - mae llawer o’r cynhyrchion yn cael eu tyfu drwy
ddefnyddio dulliau organig
-y bydd ffermwyr mewn sefyllfa gryfach ym marchnadoedd y byd gan fod y rhaglen
yn eu helpu nhw i helpu eu hunain
-na fydd yr un plentyn wedii orfodi i weithio i greur cynnyrch