Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghori â thrigolion Sir y Fflint ynglyn â meysydd parcio
Published: 09/03/2015
Mae mesurau parcio a gorfodi yn allweddol er mwyn rheoli rhwydwaith priffyrdd
effeithiol a chynorthwyo i osgoi tagfeydd. Er mwyn cynnal hyfywedd a
bywiogrwydd cymuned / tref mae’n hanfodol rheolir defnydd o barcio oddi ar y
stryd yn effeithiol.
Mae’r Awdurdod yn dymuno darparu dull cyson ar gyfer parcio oddi ar y stryd
trwy ehangu gofodau talu ac arddangos fydd yn cael ei addasu i ddiwallu
anghenion yr holl gymunedau lleol sy’n cynnig darpariaeth parcio ceir gyda 40
gofod neu fwy.
Trwy osod strwythur prisio a chostau effeithiol, mae codi tâl wedi profi i fod
yn ddull o annog cymudwyr i ddefnyddio’r meysydd parcio ar ymylon y dref a
chanolfannau cymunedol, ac yn hyrwyddo gofodau sy’n agos at ganol trefi ar
gyfer siopwyr ac ymwelwyr arhosiad byr i gefnogi hyfywedd masnachol.
Mae cyfanswm o ddeg strategaeth leol yn cael eu datblygu ar gyfer 44 maes
parcio. Mae’r rhain yn berthnasol yn ardaloedd canlynol y Sir:
Fflint
Treffynnon
Yr Wyddgrug
Bwcle
Cei Connah
Queensferry
Shotton
Caergwrle
Penarlâg
Talacre
Bydd pob strategaeth leol yn ceisio blaenoriaethu anghenion pobl anabl,
preswylwyr lleol, busnesau a’u cwsmeriaid, a hyrwyddo dulliau teithio
cynaliadwy trwy argaeledd a phrisiau effeithiol gofodau parcio.
Bydd cynllun trwydded parcio yn y gweithle hefyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer
ardaloedd parcio i weithwyr yn yr Wyddgrug (Neuadd y Sir) a Fflint. Mae’r
rhain yn feysydd parcio dynodedig o fewn y trefniadau rheoli Meysydd Parcio
lleol a bydd angen trwyddedau ar gyfer gweithwyr a Chynghorwyr sy’n gweithio ac
yn ymweld âr adeiladau hyn yn rheolaidd.
Gellir canfod manylion llawn y strategaethau hyn, gan gynnwys y costau
arfaethedig, ar wefan y Cyngor, ynghyd â dolen i’r arolwg.
Gwahoddir trigolion Sir y Fflint i rannu eu safbwyntiau ar y cynigion i godi
tâl ar gyfer parcio mewn meysydd parcio yng nghymunedau a threfi’r sir.
Mae ymgynghoriad yn awr wedi dechrau, gyda Chynghorwyr Sir, Tref a Chymuned ac
o heddiw (Dydd Llun 9 Mawrth), gwahoddir aelodau’r cyhoedd i rannu eu
safbwyntiau ar agweddau o’r strategaeth newydd. Gellir canfod manylion yr
ymgynghoriad ar wefan y Cyngor hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ar
Dirprwy Arweinydd:
“Mae adolygu prisiau meysydd parcio yn un o’r cynigion sy’n cael ei ystyried
fel rhan o’n her i ganfod arbedion effeithlonrwydd o £18+m yn y flwyddyn
ariannol sydd i ddod. Cytunwyd ar y cynnig i godi tâl am barcio mewn meysydd
parcio ledled y Sir fel rhan o’r cynigion i osod y gyllideb.
Mae’r broses ymgynghori yn awr wedi dechrau ac mae gan yr unigolion hyd at 29
Mawrth i leisio eu barn, cyn i Gabinet y Cyngor ystyried adroddiad ynglyn â’r
strategaeth parcio ceir ym mis Ebrill 2015.”