Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Polisi Torri Gwair y Cyngor
Published: 09/03/2015
Yr wythnos hon (yn dechrau ddydd Llun 9 Mawrth) bydd y Cynghorwyr yn trafod y
newidiadau i Bolisi Torri Gwair y Cyngor Sir.
Maer newidiadau yn rhan o’r mesurau arbed arian syn cael eu cyflwyno fel rhan
o her y Cyngor Sir i ddod o hyd i dros £18 miliwn o arbedion yn y flwyddyn
ariannol sydd i ddod.
Mae gan y Sir gyfrifoldeb cyfreithiol i reolir Rhwydwaith Priffyrdd o ran cadw
llwybrau yn hygyrch ac yn ddiogel i ddefnyddwyr.
Dan y polisi drafft diwygiedig, ni fydd y safonau cyfredol ar gyfer ymylon
gwair trefol yn newid. Mewn lleoliadau gwledig, bydd lleiniau gwelededd yn
parhau i gael eu torri pedair gwaith y flwyddyn. Maer newidiadau ir polisi yn
ymwneud ag ymylon ffyrdd gwledig, sef:
- Bydd ymylon ffyrdd gwledig nad ydynt yn lleiniau gwelededd yn cael eu torri
unwaith y flwyddyn, yn lle dwywaith (byddwn yn ceisio gwneud hyn fis Mehefin,
yn dibynnu ar y tywydd). Bydd y prif ffyrdd yn cael eu torri unwaith y
flwyddyn, yn hytrach na dwywaith, i ddwy ystod o led (tua dwy fetr). Bydd pob
ffordd wledig fach a di-ddosbarth yn cael ei thorri i un ystod o led (tua un
metr), unwaith y flwyddyn, yn hytrach na dwywaith.
- Mewn ardaloedd gwledig, bydd ymylon yn cael eu torri’n ôl i reoli chwyn a
choed ifanc pob chwe blynedd yn hytrach na bob tair.
- Yn ystod y tair blynedd nesaf, mae cynlluniau hefyd i dendro a chynnal prawf
marchnad ar y gwasanaeth torri gwair, er mwyn lleihau costau llogi peiriannau
ac offer arbenigol ac i sicrhau bod y gwasanaeth yn gost effeithiol.
Disgwylir ir newidiadau hyn arwain at arbedion o £75,000 y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy
Arweinydd:
“Maer Polisi Torri Gwair yn cael ei adolygu fel rhan on her i wneud arbedion
ar draws y Cyngor yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a chytunwyd ar y
diwygiadau fel rhan or cynigion ar gyfer y gyllideb.
“Mae gadael i’r gwair dyfu’n hirach hefyd yn beth da ar gyfer bioamrywiaeth, ac
yn golygu bod y gweiriau ar blodau gwyllt yn gallu blodeuo a hadu, gan
adeiladu banc hadau mwy amrywiol yn y pridd.
“Fel rhan or broses graffu, ddechrau’r wythnos hon byddwn yn trafod y
newidiadau i’r polisi mewn gweithdai gyda chynghorwyr sir, tref a chymuned. Yn
dilyn hyn, bydd y polisi diwygiedig terfynol yn amodol ar gymeradwyaeth y
Cabinet ym mis Ebrill 2015.”