Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Gwasanaeth Maethun cefnogi Wythnos Fabwysiadu a Maethu LHDT
Published: 20/03/2015
Ymunodd Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint â Thîm Maethu Wrecasm a Gwasanaeth
Mabwysiadu Gogledd Cymru yn ddiweddar, i gynnal digwyddiad ym Mhrifysgol
Glyndwr i annog mwy o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol i fod yn
ofalwyr maeth neu rieni mabwysiadu. Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o Wythnos
Fabwysiadu a Maethu LHDT.
Mae prinder mawr o fabwysiadwyr a gofalwyr maeth Ledled y DU. Mae angen pobl i
fabwysiadu tua 4,000 o blant bob blwyddyn a rhaid dod o hyd i 8,000 o ofalwyr
maeth ychwanegol. Mae’r ffigyrau’n awgrymu y gellid llenwi’r diffyg hwn pe bai
ond dau y cant o bobl LHDT yn dod ymlaen i faethu neu fabwysiadu.
Mae gan Sir y Fflint dri o ofalwyr maeth LHDT ac mae’n awyddus i annog mwy o
gyplau LHDT neu ofalwyr sengl i ddod ymlaen.
Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
“Yn ein profiad ni, mae gan ofalwyr maeth a mabwysiadwyr LHDT yr union sgiliau
yr ydym yn chwilio amdanynt. Ond yn bwysicach fyth, mae ganddynt y
penderfyniad sy’n hanfodol i ofalu am y plant a’r bobl ifanc hyn sy’n agored i
niwed.
“Roeddem yn hynod falch fod aelodau o’r gymuned LHDT wedi dod i’n digwyddiad i
glywed am y broses ac i siarad â gofalwyr LHDT am eu profiadau. Edrychwn
ymlaen at eu rhoi ar ben ffordd eu siwrnai fabwysiadu neu faethu.”
Dyma rai o sylwadau ymwelwyr a ddaeth i’r digwyddiad:
“Roedd yn ddiddorol a mewnweledol iawn ac rydym wedi cael llawer i feddwl
amdano.”
“Mae wedi bod yn llawn gwybodaeth, cyfeillgar, personol a chalonogol”.
Mae pobl ifanc sydd eisoes yn cael gofal maeth gan bobl LHDT hefyd wedi bod yn
sôn am eu profiadau. Meddai un ohonynt:
“Mae hi’n ddynes ddoniol a gofalgar sy’n gwneud i mi deimlo’n ddiogel. Rydw
i’n lwcus iawn i gael byw gyda hi. Os ydych chi’n hoyw, lesbian, deurywiol neu
drawsrywiol ac yn meddwl maethu, peidiwch â gadael i unrhyw beth eich atal.
Maen nhw wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn perthyn yma ac rydw i fel un o’r
teulu, sy’n wych achos mae angen i bawb deimlo’n ddiogel ac yn hapus.”
Meddai unigolyn ifanc arall mewn gofal maeth:
“Pan gefais wybod fy mod yn mynd i aros gyda chwpl hoyw roeddwn yn teimlo’n
gyffrous a’r unig beth a oedd ar fy meddwl oedd beth fyddai fy ffrindiau yn ei
feddwl neu yn ei ddweud ond maen nhw’n gefnogol iawn ac yn dod ymlaen â nhw’n
dda iawn. Ni ddylai pobl feirniadu cwpl hoyw, nhw yw’r bobl mwyaf anhygoel a
gofalgar erioed. Ni fyddwn yn newid fy amser yno am y byd.”
Meddai Tor Docherty, Cyfarwyddwr New Family Social, sef rhwydwaith cymdeithasol
a redir gan fabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT i deuluoedd a darpar deuluoedd
sy’n trefnu Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT:
“Tra bo mwy a mwy o bobl LHDT yn dewis mabwysiadu neu faethu, mae nifer yn dal
i ofni na fyddant yn cael croeso gan yr asiantaethau. Mae pethau wedi symud
ymlaen dros y chwe blynedd diwethaf ym maes mabwysiadu a maethu. Mae ein
cymuned fawr o deuluoedd ledled y DU yn hynod o groesawgar a chefnogol. Mae’n
amlwg i bawb pa mor dda mae ein plant yn dod ymlaen a pha mor bositif a
boddhaol y gall y profiad fod i rieni”.
Am fwy o wybodaeth am faethu a mabwysiadu edrychwch ar wefan Gwasanaeth Maethu
Sir y Fflint www.flintshirefostering.org.uk neu www.northwalesadoption.gov.uk.
Nodyn i Olygyddion
Mae Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF) yn amcangyfrif bod angen
cartref mabwysiadu ar 4,000 o blant ledled y DU bob blwyddyn.
Mae’r Rhwydwaith Maethu’n amcangyfrif fod angen dros 8,000 o ofalwyr maeth
ychwanegol ledled y DU.
Trefnir Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT gan New Family Social, sef rhwydwaith
cymdeithasol a redir gan fabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT ar gyfer teuluoedd
a darpar deuluoedd.
Llun
Cynrychiolwyr o Wasanaeth Maethu Sir y Fflint, Tîm Maethu Wrecsam a Gwasanaeth
Mabwysiadu Gogledd Cymru.