Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn Cefnogi Awr y Ddaear 2015
Published: 23/03/2015
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Awr y Ddaear Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd, a
gynhelir rhwng 8:30pm a 9:30pm ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2015.
Ar draws Sir y Fflint, mae busnesau, sefydliadau, teuluoedd ac unigolion yn
cael eu hannog i leihau eu hôl troed carbon a gweithredu yn erbyn newid yn yr
hinsawdd.
Mae trigolion Sir y Fflint hefyd yn cael eu hannog i gofrestru ar wefan Awr y
Ddaear i bleidleisio gydau switshis golau ar 28 Mawrth i ddangos eu cefnogaeth
ar gyfer gweithredu rhyngwladol yn erbyn newid yn yr hinsawdd -
www.earthhour.org
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy
Arweinydd;
“Mae Awr y Ddaear yn ddigwyddiad byd-eang gwych. Maer Cyngor eisoes wedi
cymryd nifer o gamau i leihau ei ôl troed carbon, gwella effeithlonrwydd ynni a
gosod systemau gwresogi a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn ei adeiladau a’i
dai. Mae dros 40 o weithwyr y Cyngor yn gwirfoddoli fel Cefnogwyr Amgylcheddol,
gan roi cyngor i gydweithwyr ar arbed ynni, lleihau gwastraff, a byw a gweithio
mewn modd cynaliadwy. Rydym wedi helpu aelwydydd y sir i arbed dros £175,000 y
flwyddyn rhyngddynt drwy wneud gwelliannau yn ystod y flwyddyn. Rydym hefyd
wedi atal dros 20,000 tunnell o allyriadau carbon. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi
ymrwymo i wneud gostyngiad pellach mewn allyriadau carbon a chefnogi mentrau
syn galluogi grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau i wneud yr un peth.”
Maer Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Cyngor Ynni Gogledd
Cymru i ddarparu gwybodaeth i bobl Sir y Fflint ar arbed ynni yn y cartref,
sy’n lle gwych i ddechrau gwneud gostyngiadau carbon go iawn ac arbed arian. Yn
ôl Defra ar Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gall y cartref cyfartalog arbed £340
oddi ar filiau gwresogi a thrydan ac atal oddeutu 1.5 tunnell o garbon deuocsid
drwy ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon, insiwleiddio ac atal drafftiau,
uwchraddio a rheoli systemau gwres canolog yn fwy effeithiol, diffodd offer yn
gyfan gwbl a pheidio â defnyddio trydan pan nad oes angen.
Dechreuodd Awr y Ddaear yn 2007 yn Sydney ac erbyn heddiw hwn yw digwyddiad
torfol mwyaf y byd. Llynedd, diffoddwyd goleuadau tirnodau fel Palas
Buckingham, Pont y Golden Gate yn San Francisco, Colosseum Rhufain, Ty Opera
Sydney, hysbysfwrdd Coca Cola yn Times Square, ynghyd â miliynau o gartrefi a
busnesau ar draws y byd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynllunio digwyddiad Awr y Ddaear yn Sir y
Fflint, cysylltwch â Leanna Jones, Swyddog Cadwraeth Ynni yn y Cartref ar 01352
703766 a rhowch wybod i ni beth y byddwch chi’n ei wneud.
I wybod mwy am arbed ynni yn eich cartref ac i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf
ar inswleiddio, gwresogi ac ynni adnewyddadwy, cysylltwch â Chanolfan Cyngor
Ynni Gogledd Cymru ar 0800 954 0658 neu 01352 876 040.