Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint mewn Busnes yn cynnal Sesiwn Galw Heibio Lwyddiannus ar gyfer y Gwobrau Busnes
Published: 09/08/2019
Mae tîm Datblygu Busnes Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal sesiwn galw heibio lwyddiannus yn Llyfrgell Gladstone yn ddiweddar.
Aeth busnesau i ddysgu rhagor am sut i gofrestru ar gyfer Gwobrau Busnes Sir y Fflint a chael awgrymiadau gwych ar beth i’w gynnwys.
Y cymorth a roddwyd:-
- Cyngor ar ba gategorïau i gofrestru amdanynt
- Y ffordd orau o ddefnyddio enghreifftiau o'r busnes yn y cais
- Rhagor o wybodaeth am y cinio mawreddog a sut i wneud cais am docynnau
- Cefnogaeth gyda cheisiadau ar-lein ar y wefan
Cyhoeddwyd yr 'alwad am geisiadau' ar gyfer gwobrau Busnes Sir y Fflint 2019, sy'n cynnwys wyth categori. Os ydych chi'n bwriadu cyflwyno cais i'r gwobrau, ond mae arnoch angen awgrymiadau gwych, yna efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn dod i un o’n sesiynau galw heibio ar gyfer cyngor a chyfarwyddyd ar y math o bethau y bydd y beirniaid yn chwilio amdanynt yn y cais buddugol.
Bydd y sesiwn galw heibio nesaf ar 5 Medi, 2019, rhwng 9:30am ac 1pm yn Llyfrgell Gladstone. I archebu eich lle ac am ragor o fanylion, anfonwch neges e-bost at businessawards@flintshire.gov.uk.
Am ragor o wybodaeth ar gategorïau’r gwobrau a sut i gofrestru, ewch i flintshirebusinessawards.com
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, 20 Medi, 2019.