Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Stryd Fawr Treffynnon
Published: 28/08/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus ar ôl gweithio’n agos gyda busnesau lleol a Chyngor Tref Treffynnon i gael arian ar gyfer diddymu'r parth cerddwyr yn Stryd Fawr Treffynnon.
Mae ceisiadau llwyddiannus i’r Gronfa Cludiant Lleol a’r Gronfa Adfywio Tref wedi arwain at 70% o’r £800,000 ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mae’r 30% sy’n weddill wedi dod gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Treffynnon.
Gan fod y swm llawn o gyllid wedi’i dderbyn ac oherwydd dirywiad wyneb y ffordd ers i’r newidiadau dros dro gael eu cyflwyno, roedd y Cyngor yn awyddus i ddatblygu’r cynllun ar unwaith.
Dechreuodd y gwaith ar 27 Awst a bydd yn cael ei gwblhau erbyn 30 Tachwedd. Bydd hyn yn sicrhau bod y trefniadau traffig cyfredol yn parhau mewn grym, er y bydd gofyn i rai ffyrdd gael eu cau yn ystod y cyfnod adeiladu. Gellir gweld set o gynlluniau yng Nghanolfan Treffynnon yn Cysylltu.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Rwy’n falch fod y cynllun llawn yn gallu bwrw ymlaen a gobeithio y bydd yn darparu’r hyn mae busnesau a thrigolion lleol yn y dref wedi bod yn gofyn amdano. Wrth gerdded o amgylch y dref ddoe a siarad gyda busnesau a Chynghorwyr lleol, roeddwn yn cael y teimlad eu bod yn gadarnhaol a bod yna botensial gan fod llawer yn gweithio’n galed i wneud i’r dref ffynnu gyda datblygiadau busnes a chymuned newydd, cyffrous.
“Roedd treial agor y ffordd yn ychwanegu at y bywiogrwydd ac mae’n wych ein bod yn gallu gwneud hyn yn nodwedd barhaol gydag ychwanegiadau diolch i dderbyn y cyllid grant llawn y gwnaethom ymgeisio amdano gan Lywodraeth Cymru.