Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Busnes Sir y Fflint mewn Cydweithrediad ag AGS Security Systems – galw am geisiadau 

Published: 10/09/2019

Dyddiad cau: 20 Medi 2019

Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2018 oedd y gorau eto, gyda nifer eithriadol o geisiadau a mwy o gwmnïau’n gwneud cais nag erioed o'r blaen. Cafwyd lefel ddihafal o sylw yn y cyfryngau cymdeithasol, a mynychodd y nifer mwyaf erioed o bobl y Seremoni Wobrwyo yn Soughton Hall, lle’r roedd y tocynnau i gyd wedi’u gwerthu.

Mae Gwobrau 2019 ar agor ar gyfer ceisiadau. Rydym wedi cyflwyno systemau newydd, fel proses ymgeisio ar-lein syml, gyda sesiynau galw heibio i roi awgrymiadau ymarferol i'ch helpu chi i fod yn fwy hyderus wrth wneud cais. 

Daeth enillwyr 2018 o feysydd gweithgynhyrchu, gwasanaethau busnes a thechnoleg, ac roeddent oll yn frwdfrydig am yr hyn y maent yn ei wneud, yn falch o allu ei wneud yn dda ac yn ddigon hyderus i gyflwyno’u hunain am wobr. Dilynwch eu camau eleni ac fe allech chithau hefyd brofi gwefr unigryw Gwobrau Busnes Sir y Fflint.

Mae gennym wyth o gategorïau gwobrau: 

  • Gwobr Prentisiaeth, a noddir gan Cambria for Business 
  • Gwobr Busnes Gorau gyda Dros 10 o Weithwyr, a noddir gan K K Fine Foods 
  • Gwobr Busnes Gorau i Weithio Iddo, a noddir gan P & A Group of Companies
  • Gwobr Busnes Gorau gyda Llai na 10 o Weithwyr, a noddir gan Pro-Networks
  • Gwobr Busnes Menter Gymdeithasol Gorau, a noddir gan Galliford Try Construction
  • Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol, a noddir gan Wates Construction 
  • Gwobr Technoleg, Arloesi a Menter, a noddir gan Kingspan Insulation Panels UK
  • Person Busnes y Flwyddyn, a noddir gan Edge Transport 

Gwnewch gais ar lein yn flintshirebusinessawards.com.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kate Catherall: kate.p.catherall@flintshire.gov.uk.