Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arweinwyr Busnes yn Cefnogi'r Camau Nesaf o ran Cludiant mewn Cynhadledd Brysur
Published: 25/09/2019
Datblygiadau cyffrous o ran cludiant a sut y gallant helpu i hybu busnes oedd yn cael y sylw mewn cynhadledd, y cafwyd presenoldeb da ynddi, yn ddiweddar.
Cafodd y Camau Nesaf ar gyfer Cynaliadwyedd Cludiant ei gynnal ar y cyd gan Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy, Jack Sargeant, Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy, a Chyngor Sir y Fflint yn Theatr Mostyn, Chweched Glannau Dyfrdwy, Cei Connah.
Fe ddaeth cynrychiolwyr busnes, AS Alun a Glannau Dyfrdwy, Mark Tami, AS Wrecsam, Ian Lucas, a Chynghorwyr Sir y Fflint i’r gynhadledd.
Y siaradwyr oedd Mr Sargeant, Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Gogledd Cymru Trafnidiaeth Cymru, Carolyn Thomas, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet dros Strydwedd, y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd Anthony Stanford, a’r Rheolwr Technegol a Pherfformiad Ian Bushell.
Y consensws oedd tra roedd pawb yn croesawu gwelliannau i’r briffordd i liniaru tagfeydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, fod cludiant cyhoeddus integredig a fforddiadwy a theithio llesol yn allweddol i agor cyfleoedd cyflogaeth i bawb ac i wella iechyd.
Ymhlith y prosiectau a drafodwyd roedd gwelliannau i Lwybr Coch Coridor Glannau Dyfrdwy Llywodraeth Cymru ac uwchraddio Pont Afon Dyfrdwy.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu ac yn gweithredu parcio a theithio i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, mae eisoes wedi cysylltu’r canolfannau cyflogaeth gyda llwybrau beicio ac mae’n cyflwyno lonydd bws ar gyfer cludiant bws a beicio sydd o flaenoriaeth. Hefyd bydd newidiadau i gyffyrdd i liniaru tagfeydd ar ffordd y B5129 o Shotton i Queensferry a gwell signalau yn y Fflint.
Cadarnhaodd Trafnidiaeth Cymru gynlluniau i gynyddu trenau yn ystod yr wythnos rhwng Wrecsam a Bidston i ddau drên bob awr erbyn diwedd 2021 fel rhan o Fetro Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae’r cynlluniau arfaethedig eraill yn cynnwys gorsaf reilffordd i wasanaethu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a datblygiad Porth y Gogledd.
Yn y sesiwn holi ac ateb fywiog cafwyd trafodaethau'n ymwneud â sicrhau fod cludiant ar gael i bobl hyn, pobl ifanc a chymunedau gwledig, sut i annog cwmnïau bws i gefnogi mwy o lwybrau, cysylltiadau cludiant trawsffiniol, busnesau yn darparu cyfleusterau newid i weithwyr drwy ddefnyddio teithio llesol a sut y rhoddir cyhoeddusrwydd i ddatblygiadau'n ymwneud â chludiant.
Cyfeiriodd Mr Sargeant at ddeiseb ac arni 3,751 o lofnodion 'Bysiau i Bobl nid er Elw' a gyflwynwyd i'r Senedd gan y Cynghorydd Carolyn Thomas ar ran y preswylwyr. Dywedodd fod mynediad i wasanaethau cludiant a cholli llwybrau bws penodol yn destun pryder i etholwyr ac felly mae wrth ei fodd fod y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates yn cyflwyno mesur cludiant cyhoeddus.
Dywedodd: “Mae symudedd corfforol yn ganolog i symudedd cymdeithasol, cydlyniant a chymunedau sy’n ffynnu. Rydym i gyd yn haeddu anadlu aer glân ac ni ddylai'r car fod yr unig ddewis ar gyfer ein teithio dyddiol. Dylai bysiau fod yn rhad, dibynadwy ac yn ddi garbon gan wasanaethu cymunedau trefol a gwledig.”
Dywedodd Llywydd Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy a chyd-gadeirydd Cludiant ar gyfer fforwm Gogledd Cymru, yr Arglwydd Barry Jones PC, ei fod yn teimlo'n angerddol ynglyn â chael yr isadeiledd a’r cludiant sydd eu hangen ar ein rhanbarth ar gyfer twf busnes.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod 25% o bobl Cymru yn dibynnu ar gludiant cyhoeddus. Ychwanegodd:
“Mae Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned fusnes a phartneriaid eraill i sicrhau fod Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael y buddsoddiad y mae ei angen yn ei isadeiledd fel y bydd nifer mwy o sefydliadau yn gweld ein hardal fel lle gwych i wneud busnes – gan sicrhau fod ein hardal yn cael yr hwb economaidd y mae'n ei haeddu.
“Nid yw nifer o bobl yn gallu cael mynediad i’r swyddi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy gan eu bod yn dibynnu ar gludiant cyhoeddus. Hefyd mae problemau yn ymwneud â thagfeydd o fewn ac o amgylch yr ardal. Mae swyddogion wedi creu’r cynlluniau, Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r arian, felly tro’r busnesau yw hi erbyn hyn i ymgysylltu gyda’r cyngor yn ymwneud â’r manylion a’u hyrwyddo i’r gweithwyr i helpu i yrru newid agwedd o geir a ddefnyddir gan unigolion i gludiant amgen.”
“Mae digwyddiadau Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy yn dod â busnesau ynghyd i glywed am y datblygiadau diweddaraf mewn busnes, cludiant ac isadeiledd ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.
Mae’n hanfodol fod busnesau’n ymgysylltu o fewn y prosiectau cludiant hyn ac mewn prosiectau buddsoddi fel Bargen Dwf Gogledd Cymru fel y gallant fod yn rhan o benderfyniadau a manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael.
Roedd y digwyddiad hwn yn hynod lwyddiannus yn y cyswllt hwn ac rydym nawr yn edrych ymlaen at ein digwyddiad nesaf sef Arddangosfa Busnes Gogledd Cymru yng Ngholeg Cambria ar Hydref 30.”