Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Polisi torri glasweelt
Published: 17/04/2015
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (21 Ebrill) bydd Cabinet y Cyngor yn trafod polisi
torri glaswellt y Cyngor Sir.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i reoli’r Rhwydwaith Priffyrdd a chadw
llwybrau ar agor a sicrhau ei bod yn ddiogel i ddefnyddwyr. Fel rhan o nifer o
fesurau sy’n cael eu cyflwyno gan y Cyngor i sicrhau arbedion sylweddol yn
ystod y flwyddyn ariannol nesaf, mae’n ystyried diwygio’r polisi hwn.
O dan y polisi newydd, ni fydd y safonau presennol ar gyfer torri glaswellt ar
ymyl ffyrdd trefol yn newid. Mewn ardaloedd gwledig, bydd y Cyngor yn parhau i
dorri glaswellt bedair gwaith y flwyddyn ar leiniau gwelededd. Mae’r newidiadau
yn y polisi’n ymwneud â lleiniau ymyl ffyrdd gwledig:
- Bydd lleiniau ymyl ffyrdd gwledig, nad ydynt yn leiniau gwelediad, yn cael
eu torri unwaith, yn lle dwywaith y flwyddyn (bwriedir gwneud hyn ym mis
Mehefin, gan ddibynnu ar y tywydd). Bydd y Cyngor yn torri holl leiniau yml
prif ffyrdd, ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrd a ffyrdd annosbarthedig, lled un
ystod, unwaith y flwyddyn yn lle dwywaith y flwyddyn.
- Mewn ardaloedd gwledig, bydd y lleiniau’n cael eu torri hyd at y terfyn bob
pedair blynedd yn lle tair i reoli chwyn a glasbrennau sy’n hadu eu hunain.
Mae cynlluniau hefyd i weld beth fyddai’r gost o ddarparu’r gwasanaeth yn
allanol a chaffael y gwasanaeth mwyaf cost effeithiol.
Disgwylir y bydd y newidiadau’n arbed £75,000 y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd:
“Fel rhan o’r broses graffu, rydym wedi bod yn gweithio gyda chynghorwyr sir,
tref a chymuned i drafod y newidiadau i’r polisi hwn. Roedd angen y newidiadau
fel rhan o ymdrechion y Cyngor i arbed arian yn gyffredinol. Mae’r polisi
terfynol wedi newid i adlewyrchu’r argymhellion a wnaed.
Yn ogystal ag arbed arian, mae gadael i laswellt dyfu’n hirach yn rhoi hwb i
bioamrywiaeth, mae glaswelltau a blodau gwyllt yn gallu blodeuo a hadu, gan
creu banc hadau mwy amrywiol yn y pridd.”