Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pen-blwydd Sarah yn 100 oed!
Published: 16/12/2019
Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig.
Fe aeth y Cynghorydd Marion Bateman a’i Chymar, y Cynghorydd Haydn Bateman i gyfarfod â Sarah Platt yng Nghartref Preswyl Croes Atti yn y Fflint.
Ganed Sarah, Hooson yn flaenorol, ar 8 Rhagfyr 1919 yn y Fflint, yr hynaf o ddau o blant. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a hyfforddodd fel dynes trin gwallt, gan agor ei salon ei hun yn 17 oed. Roedd ei salon ar safle’r hen sinema Plaza yn y Fflint.
Yn 15 oed, dysgodd sut i yrru, ac yn ystod y rhyfel cafodd ei galw i yrru ambiwlans a thryciau yn y Llu Awyr Cynorthwyol y Menywod. Fe gwrddodd hi â Norman, ei gwr yn ystod y rhyfel a chawsant ddau o blant, Margaret a Brian. Yn anffodus, bu farw Norman yn 44 oed ym 1962 a bu farw Brian ym mis Awst 2017.
Mae gan Sarah bump o wyrion ac wyresau, Helen, Fiona, Paul, Sarah a Vanessa, sy’n byw yn Iwerddon, ac mae ganddi chwech o or-wyrion a gor-wyresau. Roedd hi’n arfer mwynhau coginio a phobi, a dysgodd ei hwyrion ac wyresau sut i goginio.