Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad y Gyllideb 2020/21

Published: 18/12/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint yn croesawu’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2020/21 a gyhoeddwyd ddoe. Tra bod Sir y Fflint yn parhau i wynebu risgiau ariannol, ac mae’n rhaid i ni barhau gyda’n stiwardiaeth ariannol gref o’r Awdurdod, mae’r Setliad hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at ddod â degawd o setliadau cyllideb cosbedigaethol ar gyfer llywodraeth leol i ben.  

Mae Sir y Fflint yn croesawu’r berthynas sydd wedi ei hadnewyddu rhwng y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yng Nghymru - un sydd wedi ei seilio ar gyd ymddiriedaeth a pharch. Mae llais llywodraeth leol – a'r cymunedau rydym yn eu cynrychioli unwaith eto yn cael ei glywed. Mae’r achos dros well cyllid i ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus lleol hanfodol eraill wedi ei ennill.

O dan y Setliad hwn fe fydd Sir y Fflint yn derbyn £10.406M yn ychwanegol o Gyllid Allanol Cyfun yn 2020/21. Mae hyn yn gynnydd o 3.7% o’i gymharu â Setliad y flwyddyn flaenorol. Ar ôl caniatáu ar gyfer costau ychwanegol sylweddol cyflogau athrawon a chyfraniadau cyflogwr ar gyfer pensiynau athrawon – sy’n gyfanswm o £3.76M – fe fydd gennym ni £6.54M o gronfeydd newydd i helpu tuag at gydbwyso ein cyllideb ar gyfer 2020/21. Fe fyddwn hefyd yn gweld cynnydd mewn rhai o’r grantiau penodol rydym yn eu derbyn ar gyfer gwasanaethau allweddol fel gofal cymdeithasol ac addysg.

Roedd y bwlch yn y gyllideb i’w bontio ar gyfer 2020/21 – fel yr adroddwyd yng nghyfarfod y Cyngor yr wythnos ddiwethaf - tua £15.630M. Roeddem eisoes wedi llwyddo i sicrhau £8.164M o arbedion effeithlonrwydd ac incwm newydd i gyfrannu at y bwlch yng ngham cyntaf y gwaith o gynllunio ar gyfer y gyllideb. Unwaith y byddwn yn ystyried y cronfeydd newydd o £6.54M ac yn cwblhau ein gwaith ar yr ail gam o ran y dewisiadau effeithlonrwydd terfynol, rydym yn hyderus y byddwn mewn sefyllfa i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys. Fel rhan o’r gwaith hwn o sicrhau cydbwysedd rydym yn anelu i osod rhai cronfeydd i’r naill ochr i’n hamddiffyn ein hunain yn erbyn rhai o’r pwysau parhaus o ran cost a fyddai fel arall yn drysu ein cyllideb yn ystod y flwyddyn.

Mae hyn yn llwyddiant sylweddol o ystyried y sefyllfa o risg y bu'r Cyngor ynddo am gymaint o amser. Rydym wedi dal ein tir o ran amddiffyn gwasanaethau lleol a swyddi lleol ac wedi bod yn un o'r cynghorau mwyaf llafar o ran brwydro'r achos i roi terfyn ar y cyfnod o lymder.

Rydym wedi bod yn bryderus yn arbennig ynglyn â chynaliadwyedd ariannol ein hysgolion lleol. Tra rydym wedi osgoi gwneud y toriadau i gyllidebau ysgolion dirprwyedig y mae rhai cynghorau eraill wedi eu gorfodi i wneud, rydym wedi bod yn ymwybodol iawn os yw ysgolion i rannu'r costau o ganlyniad i gynnydd mewn tâl athrawon a chyfraniadau cyflogwr i bensiynau yna gall rhai gyrraedd pen eu tennyn yn fuan. Mae’n rhyddhad i ni ein bod yn gallu cadarnhau y bydd ysgolion yn cael eu gwarchod rhag y pwysau hyn o ran costau ac fe fyddant yn cael ychydig o gynnydd yn eu cyllidebau ar gyfer cyfleustodau a chostau eraill. Rydym nawr yn dymuno cynllunio ymlaen llaw fel y gall ysgolion weld peth twf yn eu cyllidebau yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Rydym yn ymwybodol iawn fod angen cynyddu’r cyfanswm rydym yn ei wario fesul disgybl yn Sir y Fflint a bod angen mwy o arian ar rai ysgolion ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw eu hadeiladau.

Rydym wedi lleisio barn yn erbyn gorfodi'r rhai sy’n talu Treth y Cyngor i dalu mwy o dreth lleol i lenwi’r bwlch yn dilyn gostyngiadau blynyddol mewn cyllid gan y llywodraeth yn ystod y cyfnod diweddar. Doedd gennym ni ddim dewis ond gosod Treth y Cyngor ar lefel uwch nag oeddem wedi ei fwriadu yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’n rhaid i’r duedd hon, sy'n peri gofid, o gynnydd blynyddol sylweddol yn Nhreth y Cyngor ddod i ben. Rydym yn bwriadu cadw’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer Sir y Fflint o dan 5% eleni.

O edrych ymlaen mae angen sicrwydd ar Sir y Fflint, a’r holl gynghorau eraill yng Nghymru, ynglyn â chyllidebau'r dyfodol. Ni allwn fynd drwy'r cylch blynyddol hwn o gynllunio ar gyfer yr anhysbys - gyda'r holl ofid a phryder a ddaw yn sgil hyn i gynifer o bobl sy'n dibynnu arnom.

Rydym nawr yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i osod rhagolygon tair blynedd ar gyfer cynlluniau gwariant cyhoeddus, i weithio gyda'r cenhedloedd datganoledig i gytuno ar gynlluniau twf realistig ar gyfer eu cyllidebau datganoledig, i sicrhau bod canfod datrysiad cenedlaethol i ariannu gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth a gosod strategaeth genedlaethol ar gyfer ariannu dyfarniadau cyflog blynyddol y sector cyhoeddus.

Rydym yn gwahodd Llywodraeth Cymru i weithio yn fwy agos fyth gyda llywodraeth leol i amddiffyn a hybu’r gwasanaeth cyhoeddus sy’n allweddol i ddyfodol Cymru egnïol, iach a ffyniannus.

Bydd y Cyngor yn adolygu sefyllfa cyllideb y cyngor yn ei gyfarfod llawn ar 28 Ionawr ac yna bydd yn cymeradwyo ei gyllideb derfynol yn ffurfiol ac yn gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror.

Y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd         Y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet

Colin Everett, y Prif Weithredwr                    Gary Ferguson, Rheolwr Cyllid Corfforaethol