Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi contractwr ar gyfer uwchraddio ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg
Published: 12/02/2020
Mae contractwr lleol wedi’i gyhoeddi yn dilyn cais llwyddiannus Cyngor Sir y Fflint i sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Ysgol Glanrafon yn Yr Wyddgrug.
Mae cwmni lleol, Wynne Construction, Bodelwyddan wedi’i ddewis ar gyfer y prosiect grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg £2,857,000 sy’n cynnwys ailfodelu ac estyniad ar Ysgol Glanrafon i gynyddu capasiti yr ysgol. Bydd £1,070,000 o gyllid ychwanegol o’r Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnig Gofal Plant yn darparu darpariaeth cyn ysgol newydd a adeiladwyd yn bwrpasol ar y safle.
Dathlwyd y cyhoeddiad hwn yn yr ysgol yn ddiweddar gan aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint ynghyd â chynrychiolwyr o Wynne Construction
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
“Bydd buddsoddiad yn Ysgol Glanrafon yn ein galluogi i gynyddu’r nifer o leoedd yn yr ysgol cyfrwng Cymraeg ac felly cyfrannu’n uniongyrchol at yr uchelgais i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl yn yr ardal.”
Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction:
“Fel cwmni Gogledd Cymru, rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau’r contract hwn i weithio gyda Chyngor Sir y Fflint unwaith eto.
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft arall o’n gwaith yn y sector addysg yn Sir y Fflint, gan gynnwys Ysgol Penyffordd, Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy, Ysgol Fusnes Cambria, Llaneurgain ac Ysgol Maes Hyfryd/Ysgol Pen Coch.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a wnaed yn bosibl drwy arian gan Lywodraeth Cymru sy’n dangos sut yr ydym yn buddsoddi mewn addysg Gymraeg i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, lleihau’r bwlch o ran cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol.
“Mae prosiectau fel hyn yn hollol angenrheidiol os ydym am ddarparu’r amgylchedd dysgu mae disgyblion yn ei haeddu, tra’n eu cefnogi i gyflawni eu huchelgeisiau.”