Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif
Published: 12/03/2020
Bydd aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael y cynigion cyffrous nesaf sydd ar y gweill ar gyfer gwella darpariaeth addysg mewn gwahanol ardaloedd o'r Sir pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 17 Mawrth.
Yn gyntaf, mae cynnig i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon, gan ddisodli Ysgol Croes Atti gydag ysgol newydd ar safle newydd ar ddatblygiad Croes Atti yn y Fflint. Mae tir wedi’i nodi ac mae’r prosiect hwn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif ac mae ganddo gysylltiad agos â Chynllun Strategol Addysg Cymru’r Cyngor. Mae angen ymgynghori'n ffurfiol gan fod safle'r ysgol newydd ychydig yn is na'r meini prawf milltiroedd o'r ysgol bresennol, fel y nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Y cynnig arloesol nesaf yw datblygu campws cynradd ac uwchradd cyfun ar safle ysgol Argoed, yn debyg i gampws yr ysgol yn Nhreffynnon. Mae'r prosiect hwn wedi'i nodi fel y mwyaf addas ar gyfer prosiect ariannu Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
Mae Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn ffurf newydd o Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat. Mae'n galluogi i LlC gyflawni prosiectau seilwaith y tu hwnt i'r hyn a osodwyd gan derfynau benthyca presennol Llywodraeth y DU. Os na fydd LlC yn defnyddio Model Buddsoddi Cydfuddiannol, ni fydd buddsoddiad o £500 miliwn yn yr ystâd addysg ar gael i gynghorau yng Nghymru a byddai gan hyn oblygiadau ar raglen arfaethedig y Cyngor yn lleol.
Y cynnig yw bod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn cael ei newid o Saltney i Fynydd Isa. Nid yw hyn yn effeithio ar awydd y Cyngor i fuddsoddi mewn darpariaeth addysg yn ardal Saltney. Mae’r newid hwn wedi’i brofi gyda LlC ac maen nhw’n gyfforddus â'r cynnig hwn.
Er nad oes angen ymgynghori statudol yn ardal Mynydd Isa, cynhelir ymgynghoriad gyda budd-ddeiliaid allweddol - cytunir ar ei lefel a'i fath gyda chyrff llywodraethu Ysgol Uwchradd Argoed ac Ysgol Mynydd Isa.
Y trydydd prif faes i'w ystyried yw ardal Saltney a Brychdyn. Yn gyntaf, mae Ysgol Gynradd Gatholig Brychdyn wedi'i nodi fel ysgol gynaliadwy ynddi'i hun.
Fodd bynnag, yn Saltney, ystyrir mai uno Ysgol Gynradd Gatholig Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Gatholig Goffa Saltney Wood yn un adeilad newydd yw'r opsiwn a ffefrir. Nid yn unig y byddai hyn yn dod â'r ddarpariaeth gynradd gymunedol bresennol yn Saltney i safon ysgol yr 21ain ganrif ond byddai'n sicrhau bod darpariaeth gynradd yn yr ardal yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Yn ogystal, cytunodd y Cabinet yn gynharach i ymestyn yr adolygiad o ddarpariaeth addysg uwchradd yn Saltney i gynnwys Brychdyn. Y bwriad yw cynnal ymgynghoriad anffurfiol â budd-ddeiliaid allweddol yng nghymunedau Brychdyn a Saltney. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei dwyn yn ôl i gyfarfod Cabinet yn y dyfodol er mwyn ystyried penderfyniadau strategol. Cynhelir hyn ar y cyd ag ymgynghoriad statudol ar newidiadau i'r ddarpariaeth ysgolion cynradd lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
“Mae gwaith gwych eisoes wedi’i wneud gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru mewn gwahanol rannau o’r Sir, gan gynnwys prosiectau yn Nhreffynnon, Penyffordd, Cei Connah a Queensferry.
“O ran y rhaglen buddsoddi ar gyfer y dyfodol, ac er mwyn sicrhau y gallwn wneud yn siwr y gall y prosiectau cyffrous hyn symud ymlaen cyn gynted â phosibl, y gobaith rwan yw y bydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar y cynigion hyn.”