Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Disgybl o Ysgol Argoed yn cael cydnabyddiaeth yn Neuadd y Sir
Published: 23/04/2015
Mae disgybl blwyddyn deg o Ysgol Uwchradd Argoed, Mynydd Isa wedi cael
cydnabyddiaeth gan Gyngor Sir y Fflint am gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth
Gwobrau Mandarin Cyngor Prydeinig HSBC.
15 oed yw Charlie Greenall ac mae’n astudio Mandarin ers deunaw mis. Ysgol
Uwchradd Argoed oedd yr unig ysgol yng Nghymru i gymryd rhan yng
Nghystadleuaeth Cyngor Prydeinig HSBC, a hynny yn y cystadlaethau ar gyfer
timau ac unigolion.
Daeth Charlie i’r brig yn ei rownd hi yn y gystadleuaeth i unigolion gan
gyrraedd y rownd derfynol a gynhaliwyd yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain
fis Chwefror.
Daeth Charlie a’i phennaeth, Dawn Spence, i Neuadd y Sir yn ddiweddar lle
cafodd llwyddiant Charlie ei gydnabod mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor Sir.
Meddai Charlie:
“Dechreuais ddysgu Mandarin yn y clwb iaith ar ôl ysgol ym Mlwyddyn 7 ac yna,
dewisais astudio’r iaith fel un o’m pynciau TGAU ac , yn wir, dyma’r pwnc
cyntaf y dewisais ei astudio ym mlwyddyn 10. Rwyf wedi bod â diddordeb yn yr
iaith ar diwylliant erioed. Pan glywais gyntaf am y gystadleuaeth, neidiais ar
y cyfle i gystadlu fel unigolyn er mwyn dangos y sgiliau roeddwn i wedi’u
dysgu. Ychydig fisoedd ar ôl cystadlu yn y rowndiau a gynhaliwyd yn Llundain,
cefais gadarnhad fy mod i wedi cyrraedd y rownd derfynol yn fy nghategori i.
Cynhaliwyd y rownd derfynol yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ac roeddwn yn
cystadlu
yn erbyn rhai siaradwyr cryf iawn o bob rhan o’r DU. Er nad enillais y rownd
derfynol, dysgais gryn dipyn o’r profiad a gwnaeth fy Mandarin wella’n gyflym
wrth i mi baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.”
Dyweodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Argoed, Dawn Spence:
“Rydym yn hynod falch o bawb a fu’n cystadlu, ac yn enwedig Charlie, a oedd nid
yn unig yn cynrychioli’r ysgol ond Sir y Fflint a Chymru hefyd. Ysgol Uwchradd
Argoed oedd un o’r ystafelloedd dosbarth Confucius gyntaf yng Nghymru ac rydym
yn dysgu Mandarin ac yn astudio diwylliant Tsieina ers blynyddoedd bellach.
Rydym wedi ehangur ddarpariaeth yn ddiweddar i gynnwys cyrsiau iaith busnes.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch âr ysgol.”
Mae’r Cynghorydd Derek Butler hefyd yn dysgu Mandarin, a chroesawodd Charlie
i’r Cyngor Sir, gan ychwanegu:
“Mae bob amser yn braf clywed am lwyddiant disgyblion Sir y Fflint, a hoffwn
longyfarch Charlie, ar ran y Cyngor Sir, ar ei llwyddiant. Rwy’n sicr y bydd
dysgu Mandarin a dysgu am ddiwylliant Tsieina yn parhau i fod yn brofiad
gwerthfawr sy’n ei chyfoethogi ”
Delwedd
Y Cynghorydd Chris Bithell, y Cynghorydd Glenys Diskin, Cadeirydd Cyngor Sir y
Fflint, Ian Budd, Charlie Greenall, a’r Cynghorydd Derek Butler, Dawn Spence
(Ysgol Uwchradd Argoed) yn Neuadd y Sir.