Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwella ein hawliau tramwy
Published: 27/04/2015
Mae llwybr troed syn cynnig cyswllt hanfodol rhwng Treffynnon a Holway wedi
cael ei wellan sylweddol yn dilyn gwaith helaeth gan Gyngor Sir y Fflint, a
gynhaliwyd gyda chefnogaeth cymorth grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Roedd y gwaith yn cynnwys torri llystyfiant, disodli hen ddraen a darparu
arwyneb carreg. Maer llwybr troed, sy’n rhan o lwybr pellter hir o’r enw
Llwybr y Pererinion rhwng Ffynnon St. Gwenffrewi, Treffynnon ac Ynys Enlli. Mae
hefyd yn cysylltu â Maes Glas a Llwybr Arfordir Cymru, a agorwyd yn ffurfiol yn
2012.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
“Mae’r Tîm Hawliau Tramwy yn darparu gwasanaeth gwerthfawr wrth gynnal y
rhwydwaith llwybrau troed i drigolion ac ymwelwyr i fwynhau cefn gwlad hardd
Sir y Fflint.
“Rwyn falch iawn bod y gwaith rhwng Treffynnon a Holway wedi cael ei gynnal i
safon mor uchel a dylai roi hwb i dwristiaeth yn ardal Treffynnon a’r tu
hwnt.
Roedd y gwaith hwn yn un o nifer o gynlluniau a gynhaliwyd i wella llwybrau
troed a llwybrau ceffylau ar hyd a lled Sir y Fflint dros y flwyddyn ariannol
ddiwethaf gyda chymorth gan CNC fel rhan oi raglen ariannu i weithredu Cynllun
Gwella Hawliau Tramwy Sir y Fflint.