Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Prif Swyddog Meddygol / Cyfarwyddwr Meddygol Gig Cymru i Drigolion
Published: 01/04/2020
Bydd cyfran fechan o drigolion Sir y Fflint sydd â chyflwr iechyd presennol neu sy’n gofalu am rywun sydd â chyflwr o’r fath wedi derbyn llythyr gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol / Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru.
Mae’r llythyr yn cynnig cyngor pwysig i gadw’r trigolion hyn yn ddiogel rhag y coronafeirws, ac yn eu cynghori mai'r ffordd orau o osgoi cael coronafeirws yw aros adref am y 12 wythnos nesaf. Cynghorwyd trigolion i beidio â chael unrhyw ymwelwyr heb law am ofalwyr a gweithwyr gofal iechyd.
Rydym yn cefnogi’r trigolion hynny sydd wedi derbyn llythyr ac nad oes ganddynt deulu, ffrindiau neu gymdogion a allai helpu gyda phethau pwysig fel cael gafael ar gyflenwadau bwyd a meddyginiaeth yn ystod yr argyfwng hwn. Mae ein gweithlu a gwirfoddolwyr o Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn darparu cefnogaeth hanfodol i’r trigolion hyn.
Rydym yn cydnabod y gallai fod angen cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn ar rai aelodau o'n cymunedau sydd heb dderbyn y llythyr hwn. Rydym yn annog trigolion sy’n bryderus i gysylltu â ni ar 01352 752121. Mae ein tîm yn barod iawn i drafod anghenion cymorth unigolion a gwneud trefniadau i helpu unigolion diamddiffyn.