Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant i Well-Fed
Published: 28/04/2020
Mae Well-Fed, y bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Clwyd Alyn a Can Cook, yn profi i fod yn boblogaidd iawn ymysg eu cwsmeriaid!
Ymateb Well-Fed i Covid-19 yw’r mwyaf o’i fath yn y DU.
Bob wythnos, mae Well-Fed yn cyflenwi prydau, bagiau ar gyfer y crochan araf a bocsys diogelwch yn rhad ac am ddim i gannoedd o aelwydydd diamddiffyn yn Sir y Fflint - i sicrhau fod trigolion sydd mewn trafferthion, trigolion sy’n hunan-ynysu ac yn methu â mynd allan a thrigolion ein lloches nos yn derbyn bwyd ffres o ansawdd uchel.
Yn dilyn y pythefnos cyntaf, rydym wedi derbyn nifer o negeseuon diolch, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth y mae Well-Fed yn ei ddarparu yn ystod y cyfnod ansicr hwn – dyma sampl o’r sylwadau yr ydym wedi’u derbyn:
- “Rwy’n hynod ddiolchgar i’ch gwasanaeth am y prydau a’r cynnyrch gwych yr ydych yn eu cyflenwi i mi a’m partner ... Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am y pecyn bwyd a roddwyd i ni, roedd yn hynod flasus. DIOLCH O GALON I CHI.”
- “Diolch am y pecyn bwyd a gefais gennych ... ac am yr holl waith caled rydych yn ei wneud i ddarparu’r gwasanaeth cyflenwi pecynnau bwyd.”
- “Rwy’n gwerthfawrogi’r bwyd a dderbyniais gan y cyngor heddiw, rydych wedi gwneud fy niwrnod i.”
- “Mae’n anodd rhoi mewn geiriau pa mor falch a diolchgar ydw i o dderbyn y cymorth hwn. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi.”
- “Diolch o galon i chi am eich gwaith yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Mae wedi bod o gymorth mawr imi, ac rwy’n ei werthfawrogi’n arw. Diolch i chi am barhau i weithio. Cadwch yn ddiogel!”
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01352 752121.