Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cydnabod gofalwyr di-dâl
Published: 08/06/2020
Yn ystod Wythnos Gofalwyr, hoffai Cyngor Sir Y Fflint gydnabod y miloedd o ofalwyr ar draws y sir sy’n darparu gofal a chefnogaeth ddi-dâl i’w hanwyliaid bob dydd.
Gofalwr yw rhywun sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal ar gyfer oedolyn neu blentyn anabl.
Ar hyn o bryd, rydym yn gwybod fod effaith y sefyllfa gyfredol yn rhoi straen ychwanegol arnynt i gyd. Rydym ni, yn ogystal â’n partneriaid a sefydliadau darparu gofalwyr, yma i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn. Rydym wedi addasu’r ffordd rydym yn cefnogi gofalwyr di-dâl a gallwn gynnig cefnogaeth ac arweiniad yn ogystal â chymorth ymarferol ac emosiynol – ni ddylai gofalwyr ddioddef ar ben eu hunain.
Yr wythnos yma, hoffem ddathlu gofalwyr di-dâl yn rhithiol a chodi ymwybyddiaeth ohonynt. Maent yn darparu cefnogaeth anhygoel a hanfodol ar gyfer eu ffrindiau ac aelodau o’u teuluoedd, a dylai pawb gydnabod a gwerthfawrogi'r gwaith pwysig maent yn eu gwneud.
Mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan i ddathlu ac ymuno â ni yn rhithiol yn Wythnos Gofalwyr 2020, am y wybodaeth ddiweddaraf ewch draw i’n porth gofalwyr: NEWCIS 01352 752525, newcis.org.uk neu eu dilyn ar gyfryngau cymdeithasol:
Twitter Facebook Instagram
Os ydych chi’n ofalwr, cysylltwch â ni. Rydym yma i’ch helpu a’ch cefnogi: Cysylltwch â NEWCIS ar 01352 752525 neu www.newcis.org.uk/registering-with-newcis.