Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ailgychwyn Gwasanaethau Trefniadau Teithio Lleol
Published: 19/06/2020
Bydd Gwasanaeth Trefniadau Teithio Lleol Cyngor Sir Ddinbych yn ailgychwyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod modd i siopau nad ydynt yn hanfodol ailagor ddydd Llun 22 Mehefin.
Bydd y rhan fwyaf o’r gwasanaethau yn rhedeg yn ôl yr amserlenni presennol o ddydd Llun ymlaen. Fodd bynnag, oherwydd bod yn rhaid i ni weithredu gan lenwi 25% o’r seti yn unig, rydym ni wedi cyflwyno amserlenni dros dro ar gyfer gwasanaeth LT7 yr Hôb-Treuddyn-yr Wyddgrug ac ar gyfer gwasanaeth LT8, Caergwrle-yr Hôb-Penyffordd-Higher Kinnerton-Parc Manwerthu Brychdyn.
Mae gan y ddau wasanaeth yma ddwy amserlen ar wahân i geisio cwrdd â’r galw o’r Hôb a Threuddyn ar yr LT7 ac o Benyffordd a Higher Kinnerton ar yr LT8. Bydd modd i’r LT7 gludo 10 o bobl ar unwaith a bydd modd i wasanaeth LT8 gludo 4 o deithwyr.
Gofynnir i bawb sy’n defnyddio bysiau’r Trefniadau Teithio Lleol wisgo masg wyneb er mwyn i ni gludo cymaint o bobl ag y gallwn, ac mi fydd yna hefyd bolisi “dim newid” er mwyn lleihau cyswllt diangen.
Ar ddiwedd pob siwrne bydd y mannau y mae pobl yn cyffwrdd ynddyn nhw yn cael eu glanhau, a bydd y cerbydau yn cael eu glanhau’n drylwyr ar ddiwedd y dydd.
Bydd amserlenni a gwasanaethau Sir y Fflint, rhai masnachol a chymunedol, yn cael eu hadolygu’n rheolaidd yn ôl eu defnydd a byddwn yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru wrth wneud hynny.
Atgoffir teithwyr i wirio amserlenni darparwyr cyn gwneud eu trefniadau teithio.