Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae pob marchnad yn Sir y Fflint bellach ar agor
Published: 23/06/2020
Croesawodd y Cyngor gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynglyn â llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo ymhellach ac y gall marchnadoedd dan do a rhai awyr agored ailagor o ddydd Llun, 22 Mehefin.
Mae’r marchnadoedd yn yr Wyddgrug, Treffynnon a Chei Connah sydd wedi bod ar agor hyd yma wedi bod yn amhrisiadwy o ran cefnogi trigolion Sir y Fflint yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.
Mae tîm marchnadoedd y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda masnachwyr a chwsmeriaid gan gynnig canllawiau ar reolau ac ymddygiad cadw pellter cymdeithasol. Mae cydweithrediad pawb sy’n gysylltiedig â’r farchnad yn hanfodol er mwyn cynnal amgylchedd diogel.
Yn yr Wyddgrug, bydd y farchnad ar y Stryd Fawr, Canolfan Siopa Daniel Owen a Maes Parcio Meadow Place er mwyn caniatáu cadw pellter cymdeithasol. Os na fydd masnachwyr yn eu lle arferol, nid yw hynny’n golygu nad ydyn nhw yno. Bydd mapiau o’r farchnad ar gael i helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i’r stondinau.
Mae marchnadoedd Sir y Fflint yn cynnig ystod eang o stondinau'n gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau ac rydym yn gobeithio y bydd trigolion yn manteisio ar y cyfle dros yr wythnosau nesaf i ddangos eu cefnogaeth i’w trefi a chefnogi ein marchnadoedd.
Mae’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a gyflwynwyd wedi eu cynllunio i helpu masnachwyr y farchnad gymaint â phosibl a gwneud canol y trefi mor groesawus a chyfforddus â phosibl heb beryglu iechyd a diogelwch y cyhoedd.