Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trefniadau Teithio Lleol: amserlen ddiwygiedig ar gyfer gwasanaeth LT 7
Published: 09/07/2020
Mae’r gwasanaeth LT 7 yn gweithredu rhwng yr Hôb a’r Wyddgrug, drwy’r Hôb, Caergwrle, Abermorddu, Cymau, Ffrith, Llanfynydd, Treuddyn, Nercwys.
Oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol cyfredol a’r effaith ar nifer y teithwyr a ganiateir i deithio ar unrhyw un adeg, mae’r amserlen ar gyfer yr LT 7 wedi’i hadolygu a bellach mae dwy amserlen ar wahân yn gweithredu.
Mae Amserlen Un yn gweithredu o Dreuddyn i Nercwys i Orsaf Fysiau’r Wyddgrug ac mae Amserlen Dau yn gweithredu o’r Hôb, Caerwys, Cymau, Ffrith a Llanfynydd.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael y cyfle i adolygu gwasanaethau Trefniant Teithio Lleol cyfredol mewn cymunedau cyfagos ac o ddydd Llun 13 Gorffennaf, bydd dau wasanaeth dyddiol wedi’u trefnu i Fryn Clyd yng Nghoed-llai a Phontybodkin yn cael eu hychwanegu at Amserlen Dau, yr Hôb i’r Wyddgrug.
Mae yna wasanaeth dros dro hefyd o Goed-llai i’r Wyddgrug am 8.20am i breswylwyr (Arosfan Eglwys Fethodistaidd Heol y Brenin), nad ydynt yn gallu cael y gwasanaeth Arriva 27 os ydyw’n llawn.
Mae manylion llawn yr amserlenni LT7 diwygiedig ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint:
LT 7A Amserlen
LT 7 Amserlen 2 Hope - Leeswood