Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cronfa Adfer Gymunedol Parc Adfer yn cael ei lawnsio
Published: 30/07/2020
Heddiw, mae’n bleser gan Bartneriaeth y Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC) a Wheelabrator Technologies Inc (WTI) i lawnsio Gronfa Adfer Cymunedol i helpu cymunedau yn ardal Glannau Dyfrdwy o effaith y sefyllfa argyfwng ddiweddar.
Fe ffurfwyd y PTGGGC gan bum Cyngor o Ogledd Cymru – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i rheoli gwastraff gweddilliol a gynhyrchwyd gan boblogaeth y pum awdurdod lleol. Gwastraff gweddilliol yw’r gwastraff sydd yn weddill ar ôl ailgychu a chompostio.
Bu i gyfleuster Ynni o Wastraff Parc Adfer ddechrau trin gwastraff yn 2019, yn dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a chreu trydan.
Fel rhan o’i ymrwymiad i’r gymuned lleol, mae’r Bartneriaeth a WTI wedi rhoi addewid i ariannu Gronfa Budd Cymunedol – gwerth £230,000 y flwyddyn – i gymunedau yn ardal Glannau Dyfrdwy.
Ymgynghorir gyda rhanddeiliaid allweddol cymunedol yng Nglannau Dyfrdwy ar hyn o bryd ar sut fydd y Gronfa Budd Cymunedol yn cael ei rhedeg. Bydd y gronfa yn cael ei agor i geisiadau yn 2021. Yn y cyfamser, bydd Gronfa Adfer Cymunedol tymor byr yn gynorthwyo mudiadau lleol i gynnal y Cymuned fel yr ydym yn dod allan o’r sefyllfa argyfwng hon.
Y math o fudiadau fydd yn gymwys am gymorth yw – mudiadau cymunedol a gwirfoddol, mentrau cymunedol a chymdeithasol, ac elusennau lleol (nid cenedlaethol) wedi’w leoli ofewn y ardal ddiffinedig Bartneriaeth Glannau Dyfrdwy.
Y math o weithgareddau y bydd mudiadau yn gymwys i geisio am yw – i ddigolledu am golled incwm yn ystod y cyfnod cyfyngiadau coronafeirws; i gyd-ariannu gwaith adeiladu mân ar gyfer ail agor adeiladau cymunedol yn ddiogel; i gyd ariannu prynu offer ar gyfer ail agor adeiladau a gwasanaethau cymunedol yn ddiogel; i gyd ariannu gweithgareddau cymunedol newydd i rhoi cymorth i grwpiau agored i niwed; i gynorthwyo gyda chostau datblygu mudiadau cymunedol newydd; i gynorthwyo weithgareddau gwirfoddol bydd yn cynorthwyo adfeiriad; i gyd ariannu cynlluniau amgylcheddol lleol byddai’n hybu mynediad a ddefnydd cyhoeddus i’r awyr agored er gwelliant iechyd a lles.
Gwahoddir ceisiadau i’r Gronfa Adfer o Mis Medi.
Bydd y gronfa yn cael ei hysbysebu ar wefan Cyngor Sir y Fflint, cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg.