Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dewch i gwrdd â'r prynwr yn rhithiol
Published: 10/08/2020
Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint (SHARP) yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fusnesau bach lleol yn y sir.
Mae’r rhaglen yn adeiladu cartrefi Cyngor a fforddiadwy newydd ar draws Sir y Fflint ac mae’r cam nesaf, sef adeiladu 71 o dai ar dri safle yn Nant y Gro a Mostyn, ar fin dechrau.
Cyn hyn, mae’r contractwr a benodwyd gan y Cyngor, Wates Construction, yn cynnal digwyddiad rhithwir a fydd yn rhoi cyfle i fusnesau lleol gael gwybod mwy am y datblygiadau tai newydd a chyffrous hyn gyda’r nod o gael eu cyflogi fel isgontractwyr.
Mae croeso i bob busnes lleol sy’n ymwneud ag adeiladu ac wedi’i leoli yn Sir y Fflint, ymuno â’r weminar ddydd Mawrth, 18 Awst am 8:30am. Gallwch gofrestru yma: https://zoom.us/webinar/register/WN_412domtuSG-j9vmt4_rAEw
Estynnir gwahoddiad i bob maes o’r diwydiant adeiladu gan gynnwys gwaith daear, gosodwyr brics, towyr, contractwyr plymio a thrydanol, teilswyr, plastrwyr, seiri, peintwyr, tirlunwyr a ffenswyr. Bydd tîm datblygu busnes y Cyngor hefyd yn dod i'r digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Sir y Fflint mewn Busnes.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:
“Mae nifer o fusnesau lleol eisoes wedi elwa o weithio gyda ni, o ganlyniad i’r bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. Rydym wedi cynnal y digwyddiadau hyn o’r blaen, ond dyma’r cyntaf y byddwn yn ei gynnal yn rhithiol, oherwydd y cyfnod digyffelyb hwn.
“Rydyn ni'n awyddus i barhau i greu cyfleoedd cyflogaeth trwy ddefnyddio busnesau lleol. Byddwn yn annog busnesau bach yn y diwydiant adeiladu i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth ac i weld sut y gallant gymryd rhan."
Meddai Dave Saville, Cyfarwyddwr Uned Fusnes Wates Construction yn y Gogledd-Orllewin: “Mae Gogledd Cymru yn gartref i lawer iawn o fusnesau adeiladu o safon, ac rydym eisiau estyn allan i gymaint â phosibl am eu cefnogaeth i ddarparu cam nesaf y cynllun tai ar gyfer Sir y Fflint.
“Gan fod hwn yn ddigwyddiad rhithwir, gobeithiwn y bydd mwy o gwmnïau nac erioed yn gallu ymuno a dysgu mwy am sut mae SHARP yn cryfhau darpariaeth tai’r rhanbarth, yn ogystal â sut y gallant elwa’n uniongyrchol o gyflenwi i’r prosiectau hyn.”
I gael rhagor o fanylion cysylltwch â: Kate Catherall, Cyngor Sir y Fflint - kate.p.catherall@flintshire.gov.uk - 078765768831.