Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhybudd Gwella Cyntaf Wedi’i Gyflwyno
Published: 28/08/2020
Mae mwyafrif yr adeiladau lletygarwch ledled Sir y Fflint wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau cydymffurfiad â'r rheoliadau a'r canllawiau newydd a roddwyd mewn grym i sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff yn dilyn dechrau Covid-19. Fodd bynnag, yn ddiweddar mae ein Tîm Diogelu Cymunedau a Busnes wedi cyhoeddi Rhybudd Gwella cyntaf Sir y Fflint o dan Reoliadau Amddiffyn Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.
Cyflwynwyd yr hysbysiad ar dafarn The Blossoms ym Magillt yn dilyn tystiolaeth a ddarparwyd gan Heddlu Gogledd Cymru o ddiystyru mesurau cadw pellter corfforol, methu â defnyddio offer amddiffynnol yn briodol i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel a diystyru cyffredinol o ran lles staff a chwsmeriaid a oedd yn ymweld â'r adeilad.
Rhoddwyd cyngor ac arweiniad i reolwr yr adeilad ar ôl i ni dderbyn y cwynion hyn gyntaf. Yn anffodus, ni weithredwyd ar y cyngor a'r arweiniad a ddarparwyd gennym.
Mae'r rhybudd gwella yn cynnig o leiaf 48 awr i'r adeilad weithredu ar y gofynion ar gyfer gwella, a bydd yn cael ei fonitro'n agos.
Mae'n bwysig bod adeiladau'n dilyn canllawiau a rheoliadau i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel er mwyn lleihau lledaeniad posibl Covid-19. Bydd ein swyddogion yn parhau i weithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill i ymyrryd lle teimlir nad yw mesurau'n cael eu cymryd o ddifrif neu yn cael eu hanwybyddu.