Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru 2019/20

Published: 21/09/2020

Pan fydd Cabinet y Cyngor yn cyfarfod ar 22 Medi, bydd gofyn iddynt nodi a chael sicrwydd o asesiad cadarnhaol Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad y Cyngor yn ystod 2019/20. 

Yn sgil sefyllfa Covid-19, mae Cynllun Adolygu Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 2020-21 wedi cael ei ohirio. 

Pob blwyddyn mae AGC yn ysgrifennu ac yn cyhoeddi llythyr ar gyfer awdurdodau lleol sy’n darparu adborth ar arolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn. 

Er nad oedd modd cynnal cyfarfod adolygiad perfformiad blynyddol arferol ym mis Ebrill eleni, mae llythyr AGC yn tynnu sylw at nifer o gryfderau a dulliau arloesol, ac mae rhai ohonynt wedi’u rhestru isod. 

  • Mae Sir y Fflint yn elwa o Uwch Dîm Rheoli profiadol.  Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys sy’n cael eu cefnogi gan weithio tuag at weledigaeth a rennir. Mae yna gefnogaeth gorfforaethol a gwleidyddol gref ar gyfer gwasanaethau plant ac oedolion a dealltwriaeth drylwyr a datblygedig o gryfderau a heriau presennol. 
  • Fe gyfeiriodd AGC yn benodol at y staff ymroddgar ac ymrwymedig maent wedi eu cyfarfod trwy gydol y flwyddyn wrth iddynt ddelio â’r Cyngor. 
  • Mae gwaith arloesol yn digwydd wrth ddatblygu amrywiaeth o brosiectau newydd a defnyddio cyllid grant er mwyn creu modelau newydd o ofal a chefnogaeth i wella canlyniadau i bobl.  Er enghraifft, yng Ngwasanaethau Plant, y gwaith sy’n cael ei wneud gyda phartneriaid rhanbarthol i sicrhau cyllid i greu asesiad amlddisgyblaeth a chanolfan gefnogaeth i helpu â chynllunio lleoliad hir dymor. Fe soniodd AGC hefyd am y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu’r sector gofal lleol a datblygu menter meicro-ofal.
  • Mae Sir y Fflint yn cynnwys pobl wrth ddatblygu gwasanaeth, er enghraifft, roedd prosiect Mockingbird yn cynnwys pobl ifanc gan ofyn iddynt beth oedd yn bwysig iddyn nhw. 
  • Yn y gwasanaethau oedolion, fe gyfeiriwyd yn benodol at y gwaith sy’n digwydd i ymgysylltu â busnesau ac elusennau lleol i roi profiad gwaith i bobl sydd ag anabledd dysgu a’u cefnogi mewn i gyflogaeth am dâl.
  • Fe dynnwyd sylw at Brosiect Search fel enghraifft o lwyddiant Sir y Fflint i weithio gyda phartneriaid allanol i sefydlu rhaglen cefnogi cyflogaeth i bobl ifanc sydd ag anabledd dysgu. 
  • Roedd AGC yn hapus iawn gyda’r Ganolfan Cymorth Cynnar gan nodi ffocws cryf ar gymorth cynnar a chefnogaeth i ddatblygu gwytnwch a helpu i atal problemau teuluoedd rhag gwaethygu. 
  • Fe nododd AGC fod Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth yn lleol ac yn rhanbarthol.  Cyfeiriodd AGC yn benodol at y ffaith fod y Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr gofal cartref gan gyfeirio at raglenni llwyddiannus Cynnydd i Ddarparwyr. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Rwyf yn falch iawn bod AGC unwaith yn rhagor yn cydnabod cryfderau ac ymrwymiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint i ddarparu ystod o wasanaethau cymorth a gofal i’n trigolion. Mae hyn yn dyst i waith gwych ein staff a’n timau a’r partneriaethau agos a geir gyda chydweithwyr ar draws y rhanbarth. 

“Rydw i’n arbennig o falch ein bod wedi cael adroddiad mor wresog eleni tra bod pawb ohonom wedi wynebu heriau digyffelyb, ond eto roedd modd i ni barhau i gefnogi ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn.  Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein gweithwyr gwych.”