Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhaglen tai arloesol yn symud yn ei blaen
Published: 13/05/2015
Bydd rhaglen tai ac adfywio arloesol Sir y Fflint - a fydd yn gweld tai Cyngor
newydd a thai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu yn y Sir - yn cymryd cam mawr
ymlaen yn y Cabinet ddydd Mawrth (19 Mai).
Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Sir y Fflint yn uchelgeisiol ac yn cynnwys
codi 500 o gartrefi newydd yn y Sir yn ystod y pum mlynedd nesaf - 200 ohonynt
yn dai Cyngor.
Y cam nesaf yw penodi partner datblygu ar gyfer y prosiect ac, yng nghyfarfod y
Cabinet
ddydd Mawrth, bydd y cynigydd a ffafrir yn cael ei gyhoeddi. Bydd hyn yn nodi
camau olaf y broses gaffael fawr. Y cynigydd a ffafrir fydd y cwmni a gafodd y
sgôr uchaf yn ystod y broses gaffael; bydd y cwmni gyda’r ail sgôr uchaf yn
cael ei benodi fel y cynigydd wrth gefn. Bydd cymeradwyaeth y Cabinet yn
caniatáu cwblhau’r broses gaffael, gydar cynigydd buddugol yn cael ei
gyhoeddi’n fuan.
Unwaith y bydd y contract wedi ei ddyfarnu, a phartner datblygu yn ei le, bydd
y rhaglen
SHARP yn dechrau ailddatblygu’r tri safle (dau safle trefol ac un safle
gwledig), sef safle hen fflatiau deulawr yn y Fflint sydd wedi’u clirio i wneud
lle i oddeutu 95 o dai a fflatiau, safle hen Custom House School yng Nghei
Connah, a safle gwledig yng Nghoed-llai.
Mae’r cynigwyr hefyd wedi seilio eu cynigion ar Safon Tai Sir y Fflint sydd
wedi ei datblygu mewn ymgynghoriad â thenantiaid. Bydd y safon yn llywio
cynllun a manyleb y tai newydd arfaethedig, gan gynnwys cysondeb ac ansawdd da
o ran edrychiad mewnol ac allanol y tai, effeithlonrwydd ynni a pharcio digonol.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai:
“Maen gyffrous iawn gweld rhaglen SHARP yn datblygu mor dda. Rydym ni rwan yn
agos iawn at benodi partner datblygu, a fydd yn gweithio gydar Cyngor i
gyrraedd ein nod o
ddarparu tai fforddiadwy newydd sydd wir eu hangen yn y Sir.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
“Bydd y rhaglen SHARP yn helpu blaenoriaethau’r Cyngor o ran darparu Cartrefi
Cyngor
newydd a thai fforddiadwy ar gyfer pobl Sir y Fflint. Bydd y rhaglen yn darparu
500 o gartrefi newydd yn ogystal â mentrau adfywio cysylltiedig a budd
cymunedol, heb anghofio am yr holl gyfleoedd gwaith a hyfforddiant lleol.”