Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygiad o wasanaethau bws a gymorthdelir a bws gwaith Glannau Dyfrdwy
Published: 13/05/2015
Bydd adolygiad o wasanaeth cymhorthdal ??bws y Cyngor yn cael ei gynnal gyda
hyn, yn
amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, i sicrhau bod gwasanaethau bws y Sir yn
parhau i fod yn gynaliadwy, yn gost-effeithiol ac yn diwallu anghenion
cymunedau lleol. Bydd yr adolygiad arfaethedig yn cael ei drafod yn y Cabinet
ddydd Mawrth (19 Mai).
Mae Cyngor Sir y Fflint ar hyn o bryd yn cymorthdalu ??30 o lwybrau bysiau na
fyddai fel arall ar gael yn fasnachol. Mae hyn yn costio £1 miliwn i’r Cyngor y
flwyddyn. Maer llwybrau a
gefnogir fel arfer gan y Cyngor yn llwybrau gwledig ac yn wasanaethau yn gynnar
y bore,
gydar nos, ddydd Sul, Gwyliau Banc. Maent hefyd yn cymorthdalu rhai
gwasanaethau
cludiant ysgol, neu wasanaethau drwy bentrefi neu ystadau tai penodol.
Maer Cyngor hefyd yn cymorthdalu bws gwaith Glannau Dyfrdwy, syn darparu
cludiant yn ôl y galw i alluogi gweithwyr fynd i Barc Diwydiannol Glannau
Dyfrdwy. Mae lefelau cymhorthdal?? bws gwaith Glannau Dyfrdwy yn uchel, sef £6
y teithiwr, ac nid ywn gynaliadwy ir Cyngor. Mae nifer y teithwyr ar fws
gwaith Glannau Dyfrdwy wedi cynyddun sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac
mae’r Cyngor or farn y gallair gwasanaeth fod yn wasanaeth wedi ei rhaglennu
gydag amserlen a llwybr sefydlog, yn hytrach na gwasanaeth hyblyg a drefnir
ymlaen llaw. Bydd y Cyngor yn ymgysylltu â gweithredwyr bysiau masnachol gydar
bwriad o gyflwyno a datblygu gwasanaethau bws masnachol newydd ir Parc cyn i’r
galw cyfredol am wasanaeth o’r fath leihau.
Mae gan y Cyngor drefniadau partneriaeth da gyda chwmnïau bysiau masnachol,
syn
darparu cysylltiadau cludiant da rhwng trefi ac aneddiadau allweddol. Bydd y
Cyngor yn
gweithio mewn partneriaeth â’r gweithredwyr hyn i annog twf masnachol pellach
ar hyd y
llwybrau craidd hyn; efallai y gellir darparu rhywfaint o gymorth i sicrhau
gwasanaeth cyson o ansawdd uchel syn cysylltur cyrchfannau allweddol gyda
gwahanol fannau casglu ar hyd y llwybr. Adnabod y lefel ofynnol o wasanaeth ar
bob un or llwybrau craidd fydd elfen gyntaf yr adolygiad, a fydd yn cael ei
wneud mewn gweithdy gyda Chynghorwyr Sir a Chynghorau Tref a Chymuned.
Lle bydd gwasanaethau bysiau â gymorthdelir ??yn lleihau neu’n cael eu diddymu,
bydd y
Cyngor yn bwriadu gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i gyflwyno
trefniadau
cludiant yn y gymuned syn gynaliadwy ac yn cwrdd â blaenoriaethaur Cyngor
Sir. Trwy
gyflwyno Uned Cludiant Integredig, bydd y Cyngor wedyn yn gallu gweithredu fel
gwasanaeth galluogi canolog, gan ddarparu cymorth a chyngor i grwpiau a
sefydliadau cymunedol lleol; bydd ceisiadau yn cael eu gwneud ar gyfer cyllid
canolog i ddatblygu cysylltiadau cludiant cymunedol ar isadeiledd sydd ei
angen i gefnogi gwasanaethau cludiant.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd:
“Maer adolygiad hwn yn angenrheidiol oherwydd lefel ddigynsail o arbedion
ariannol y mae’n rhaid i’r Cyngor eu gwneud. Byddwn yn gweithion agos gyda
chymunedau a phartneriaid lleol i sicrhau bod lefel y cymorth ariannol a roddir
yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy, a byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn darparu
gwasanaeth modern ac effeithlon syn gwasanaethu buddiannau Sir Fflint ai
thrigolion orau.
Os bydd y Cabinet yn cymeradwyor mesurau, bydd elfen ymatebol gwasanaeth bws
gwaith Glannau Dyfrdwy yn dod i ben ar 31 Awst 2015. Bydd canlyniadaur
adolygiad o
gymorthdaliadau ??bws yn cael eu cyflwyno ir Cabinet fis Gorffennaf 2015.