Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mynediad cyfyngedig at Lwybr Clawdd Offa mewn ardaloedd sy’n destun cyfyngiadau symud lleol
Published: 12/10/2020
Sylwch fod cyfyngiadau symud oherwydd y coronafeirws yng Nghymru yn wahanol i’r rhai yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Er bod Llwybr Clawdd Offa ar agor yn ei gyfanrwydd yn unol â chanllawiau a rheoliadau Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd mae cyfyngiadau symud lleol oherwydd y coronafeirws (COVID 19) ar waith gan Lywodraeth Cymru sy'n cyfyngu ar fynediad at y llwybr.
Mae'n anghyfreithlon mynd i mewn i ardal awdurdod lleol neu ei gadael (a elwir hefyd yn 'ardaloedd diogelu iechyd lleol') heb esgus rhesymol. Nid yw cerdded ar y llwybr yn esgus rhesymol ac mae torri'r cyfyngiadau yn drosedd ddirwyadwy.
Felly, oni bai eich bod yn byw yn yr un ardal awdurdod lleol, peidiwch ag ymweld â'r rhannau hyn o'r llwybr am y tro. Dewch yn ôl yn nes ymlaen pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a pharhewch i ddilyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglyn â’r coronafeirws a chadw eich hun ac eraill yn ddiogel.
Noder bod Llwybr Clawdd Offa yn croesi awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Y rhan o’r llwybr yr effeithir arni ar hyn o bryd yw:
Rhan ogleddol gyfan y llwybr o Fronygarth, ychydig i'r de o Gastell y Waun, i Brestatyn.
Mae manylion llawn y cyfyngiadau ar gael yn: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol
Mae'r ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn ar Lwybr Clawdd Offa yn destun cyfyngiadau symud lleol (yn ôl dyddiad):
• Cyngor Sir y Fflint (o 1 Hydref 2020 6pm GMT
• Cyngor Sir Ddinbych (o 1 Hydref 2020 6pm GMT)
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (o 1 Hydref 2020 6pm GMT)
Ymweld â'r llwybr yn ddiogel
Dilynwch ein canllawiau i gael amser gwych wrth gerdded gan eich cadw eich hun ac eraill yn ddiogel.
Cynlluniwch o flaen llaw
• Mae'r canllawiau ynglyn â’r coronafeirws yng Nghymru yn wahanol i’r rhai yn Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Darllenwch y canllawiau diweddaraf yng Nghymru ynglyn â’r coronafeirws
• Cofiwch fynd ati o flaen llaw i wirio amseroedd agor toiledau cyhoeddus a safleoedd lluniaeth arferol ac amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus, gan ei bod yn bosibl eu bod yn gweithredu â chapasiti llai neu ddim o gwbl.
• Dilynwch reolau Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglyn â chadw pellter cymdeithasol a’i ganllawiau ar hylendid dwylo
• Mae llety hunangynhwysol wedi bod ar agor ers 11 Gorffennaf 2020, a safleoedd gwersylla â chyfleusterau a rennir ers 25 Gorffennaf 2020. Darllenwch y canllawiau diweddaraf ar y coronafeirws i ddiwydiant twristiaeth a lletygarwch Cymru
• Darllenwch am y gwyriadau dros dro diweddaraf i'r llwybr